Clefyd: '2%' yn cael cyngor am ddeiet, medd elusen.
- Cyhoeddwyd
Dim ond 2% o'r 7,000 â chlefyd siwgr bob blwyddyn sy'n cael cyngor am ddeiet yn ôl gofynion y gyfraith, medd elusen.
Honnodd Diabetes UK Cymru mai'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru oedd y "gwaethaf yn y Deyrnas Unedig" o ran hysbysu pobl am raddfa'r clefyd a'r cymhlethdodau marwol posib.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn parhau i "hybu ffordd o fyw iach".
Eisoes mae'r elusen wedi honni bod 80% o'r £9.8 biliwn sy'n cael ei wario'n flynyddol ar y clefyd yng ngwledydd Prydain yn ymateb i gymhlethdodau.
Dywedodd y byddai 17% o holl gyllid y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei wario ar y clefyd erbyn 2035.
Dywedodd Dai Williams o'r elusen: "Nid yw'r lefel hon o gost yn gynaliadwy ac rwy'n poeni y gallai amharu'n fawr ar y Gwasanaeth Iechyd.
"Dylai'r llywodraeth hysbysu'r cyhoedd y gallai'r clefyd fod yn beryglus," meddai.
Roedd canllawiau y Sefydliad Prydeinig dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, meddai, yn golygu bod rhaid darparu gwybodaeth am y clefyd i gleifion sydd newydd gael gwybod eu bod yn dioddef.
Ym mis Rhagfyr dywedodd yr elusen ei bod yn "warthus" nad oedd gan Gymru, yn wahanol i'r Alban, system gyfrifiadurol ganolog i wella triniaeth.
Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cyfrifoldeb byrddau iechyd yw darparu addysg strwythuredig i gleifion i hybu hunan rheoli a'u cadw'n iach ac allan o'r ysbyty.
"Bydd hunanofal effeithiol yn thema allweddol yn y cynllun cyflenwi ar gyfer y cyfnod tan 2016."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011