Diciâu: Un o brif wyddonwyr yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Pollock na allai gefnogi'r newid polis

Mae un o brif wyddonwyr ymchwil y DU wedi ymddiswyddo o fwrdd rheoli sefydlwyd i ystyried sut i ddelio â TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod Yr Athro Chris Pollock wedi ymddiswyddo.

Mae'r Athro Pollock yn cyhuddo Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, o fynd yn groes i argymhellion yr adolygiad ar ôl iddo benderfynu brechu moch daear yn hytrach na'u difa.

Mae'n dweud ei fod yn credu y gallai polisi'r llywodraeth flaenorol ym Mae Caerdydd, llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru, i ddifa mewn ardal benodol, fod wedi gwneud gwahaniaeth.

Yr Athro Chris Pollock oedd prif wyddonydd dros dro Cymru.

"O ran newid polisi, dydi brechu ddim wedi cael ei brofi ar raddfa eang a dim ond mewn theori mewn labordy y mae wedi ei wneud," meddai'r athro.

Brechu am bum mlynedd

"Doedd gen i ddim digon o hyder y byddai'n gweithio ac felly doedd gen i ddim opsiwn ond ymddiswyddo."

Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Mr Griffiths na fydd y cynllun difa mewn ardal benodol yn parhau wrth i'r llywodraeth ffafrio cynllun brechu.

Fe fydd y cynllun brechu pum-mlynedd yn dechrau yng ngogledd Sir Benfro, lleoliad y cynllun difa.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio'r newid cynlluniau fel "bradychiad llwfr" wrth i elusen yr RSPCA ddweud eu bod yn "falch a bod hyn yn rhyddhad".

Roedd Yr Athro Pollock yn gyn-gyfarwyddwr IBERS yn Aberystwyth.

"Roeddwn i mewn sefyllfa anfoddhaol ac o'r adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y Gweinidog, roedd 'na sylw penodol am y problemau o ddefnyddio brechu mewn ardal lle mae 'na lefel uchel o'r afiechyd," meddai wrth Farmers Guardian.

'Cyfle rhesymol'

"Mae defnyddio brechu mewn ardal gyda lefel uchel o foch daear sydd wedi eu heintio, yn fy marn i, yn mynd yn groes i'r argymhellion yn yr adolygiad gwyddonol."

Mae'n dweud ei fod yn credu bod gan y polisi blaenorol "gyfle rhesymol" o gael rhywfaint o lwyddiant gwirioneddol ond bod y rhain nawr wedi eu lleihau.

"Dydi brechu anifail sydd eisoes wedi ei heintio ddim yn cael effaith o gwbl," meddai.

"Fydd o ddim yn atal yr anifail rhag cario'r haint a dwi ddim yn credu mai dyma'r cam gorau."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi derbyn ymddiswyddiad Yr Athro Pollock o fwrdd rhaglen erydu TB.... a diolchodd iddo am ei gyfraniad."

Pan gyhoeddwyd y newid i'r rhaglen fe ddywedodd Prif Filfeddyg Cymru, Christianne Glossop, nad oedd 'na ddata i gadarnhau y byddai brechu yn gwneud gwahaniaeth i achosion diciau mewn gwartheg ond ei fod yn ymateb cwbl resymol ac nad oes 'na reswm pam na ddylai weithio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol