Gorwario: £12m ar gyfer tri bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Byddai tri o fyrddau iechyd Cymru wedi gwneud colled eleni oni bai am £12m o arian ychwanegol gafodd ei ganiatáu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fyrddau iechyd beidio â gwneud colled.
Roedd Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths wedi dweud wrth fyrddau iechyd Cymru i beidio â disgwyl rhagor o arian os nad oedden nhw'n cwrdd â'u targedau. .
Y llynedd rhoddwyd £145 miliwn yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd fel taliad "terfynol" cyn mynd i'r afael â thargedau.
£4m
Bu'n rhaid i fyrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys dderbyn tua £4 miliwn yr un er mwy'n cadw'r ddysgl yn wastad.
Cytunodd Llywodraeth Cymru y byddai'r byrddau yn cael cymryd yr arian o gyllideb eleni.
Bydd hynny'n golygu y bydd angen mwy fyth o arbedion yn y dyfodol.
Fe wnaeth gweddill y byrddau iechyd yng Nghymru sicrhau bod tua £500,000 o arian wrth gefn.
Dywedodd Mrs Griffiths: "Mae hon yn dipyn o gamp o gofio'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Doedd o ddim yn mynd i fod yn dasg hawdd ac mae tri o'r saith bwrdd yng Nghymru wedi cael caniatâd i wario canran fechan o gyllideb y flwyddyn nesa, er mwy sicrhau eu bod yn cwrdd â'u targedau."
Dywedodd y byddai gweision sifil yn cynnal arolwg o gynlluniau ariannol y byrddau dan sylw.
Dyfodol gwasanaethau
Daw'r newyddion wrth i fyrddau iechyd baratoi i gyhoeddi adroddiadau ynglŷn â dyfodol gwasanaethau meddygol.
Fe allai hyn arwain at rai newidiadau fydd yn golygu siwrnai hirach i gleifion ar gyfer rhai gwasanaethau arbenigol.
Mae gweinidogion wedi dweud eu bod yn gefnogol i adroddiad oedd yn galw am ganoli rhai gwasanaethau.
Ond mae'r llywodraeth wedi dweud na fydd unrhyw un o'r ysbytai cyffredinol yn cael ei gau neu ei israddio fel rhan o'r ad-drefnu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012