Rhybudd y BMA i fyrddau iechyd 'beidio â mynd i banig'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymdeithas Feddygol wedi cyhuddo byrddau iechyd Cymru o "fynd i banig" wrth geisio arbed arian a chyflwyno newidiadau.
Daw hyn ar ôl pryderon am saith ysbyty yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd wedi cau unedau dros dro.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu mwy o doriadau nag unrhyw le arall yn y DU ac mae'r penderfyniad i gau unedau dros dro yn bodoli hyd nes diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.
O ganlyniad i gau wardiau ar draws Cymru mae'n golygu bod cleifion yn gorfod teithio ymhellach ar gyfer triniaeth ddyddiol.
Cafwyd nifer o brotestiadau ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf yn gwrthwynebu'r cau.
Un o'r cymunedau sydd wedi ei heffeithio yw Pen Llŷn.
Gwasanaeth cynaliadwy
Ym mis Ionawr roedd cannoedd yn protestio wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gau ward yn Ysbyty Bryn Beryl.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi pwysleisio mai rhywbeth dros dro ydi hyn, er mwyn ymdopi â phwysau'r gaeaf ac maen nhw dan bwysau i beidio â gorwario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw'n cydweithio gyda meddygon i greu gwasanaeth sy'n ddiogel a chynaliadwy - ond bod rhaid i fyrddau iechyd fyw o fewn eu cyllidebau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011