Y Ceidwadwyr yn colli tir yn eu cadarnleoedd

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew R T Davies fod ei blaid wedi cael "siom"

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi colli rheolaeth ar ddau gyngor mewn dau o'u cadarnleoedd yng Nghymru.

Bellach does neb yn rheoli cynghorau Bro Morgannwg na Mynwy'n llwyr wedi i'r Blaid Lafur ennill tir yn y ddwy ardal.

Yn Sir Fynwy roedd y Ceidwadwyr dair sedd yn brin o'r 22 sedd yr oedd eu hangen i ennill rheolaeth lwyr.

Collodd cyn arweinydd y cyngor, y Ceidwadwr Gordon Kemp, ei sedd ym Mro Morgannwg.

Trechu

Trechodd y Blaid Lafur glymblaid a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr yng Nghasnewydd.

Mae canlyniadau Sir Fynwy yn golygu bod gan y Ceidwadwyr 19 sedd, saith yn llai na 2008.

Bellach mae gan Lafur 11 sedd wedi iddyn nhw gipio pedair sedd ychwanegol ddydd Iau.

Y Ceidwadwyr sy'n cynrychioli etholaeth Mynwy yn San Steffan ac yn y Cynulliad.

Enillodd Llafur 22 sedd ym Mro Morgannwg ac er nad yw'r canlyniad yn ddigon i ennill rheolaeth lwyr roedd yn ddigon da i ddisodli'r Ceidwadwyr enillodd 11 sedd o'i gymharu â 25 yn 2008.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies fod ei blaid wedi cael "siom" wedi "chwe wythnos o benawdau Prydeinig anodd iawn".

'Cyflwyniad'

"Mae angen i'r neges fod yn fwy clir ac mae angen i bobl wybod nad yw'r gwaith rydym wedi ei ymgymryd yn mynd i gael ei gyflawni mewn chwinciad," meddai.

Dywedodd Mr Kemp wrth BBC Cymru fod y glymblaid yn San Steffan yn cymryd rhai "penderfyniadau anodd" ond eu bod yn ei chael hi'n anodd gyfleu'r neges.

"Y broblem yw cyflwyniad y neges gan San Steffan," meddai.

"Dydyn ni ddim yn esbonio materion na throsglwyddo'r neges i'r cyhoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol