Lansio strategaeth iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Stressed personFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lesley Griffiths y bydd y strategaeth yn cael ei anelu at bobl o bob oed

Mae cyfnod ymgynghorol o 12 wythnos yn dechrau ar strategaeth Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, mai nod Iechyd Meddwl Gyda'n Gilydd yw taclo stigma a "sicrhau bod gan grwpiau bregus fynediad at ofal a thriniaeth".

Bydd digwyddiadau ymgynghorol arbennig yn cael eu cynnal ar draws Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod chwarter poblogaeth Cymru yn cael profiad o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg.

Dywedodd Ms Griffiths y byddai'r strategaeth yn canolbwyntio ar wella'r canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, gyda phwyslais ar ganiatáu i bobl fyw yn annibynnol.

"Calon y strategaeth yw'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) sy'n rhoi cyfrifoldebau newydd ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol," meddai.

"Nod y strategaeth yw ateb galw pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl, ac i wella iechyd meddwl.

"Mae'n cynnwys pobl o bob oed, ac yn ceisio cynnwys pob sector yng Nghymru er mwyn gwireddu ei amcanion.

"Mae'n amlygu'r angen i daclo stigma a gwahaniaethu, ac i sicrhau bod grwpiau bregus yn cael mynediad cyfartal i ofal a thriniaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol