Cynnau'r fflam Olympaidd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y fflam ei chynnau drwy belydrau'r haul, arwydd o burdeb
Mae'r fflam ar gyfer y Ffagl Olympaidd a'r Gemau Olympaidd wedi ei chynnau yn ystod seremoni yn Olympia, Gwlad Groeg.
Yr actores Ino Menegaki gafodd y dasg o gynnau'r fflam a ddaeth o belydrau'r haul.
Fe wnaeth y seremoni gymryd lle yn adfeilion Teml Hera, stadiwm y Gemau hynafol.
Fe fydd y fflam yn teithio o amgylch Gwlad Groeg am wythnos cyn dod i'r DU ar Fai 18 ar gyfer taith gyfnewid 70 niwrnod.
Fe fydd yn cyrraedd Cymru ar Fai 25 gan deithio o amgylch tan Fai 30.
Yn ystod y seremoni ddydd Iau fe gafwyd perfformiad ar ddawns yn symbol o gryfder cyn i'r tân gael ei gynnau gan ddefnyddio drych i ddenu'r pelydrau.
Mae'r fflam yn symbol Olympaidd o burdeb gan ei fod yn dod yn uniongyrchol o'r haul.
Prydeiniwr
Cafodd ei drosglwyddo i wrn cyn ei drosglwyddo i'r stadiwm ac i ffagl Roegaidd.
Fe wnaeth y ffagl Roegaidd wedyn drosglwyddo'r fflam i ffagl Llundain 2012 a oedd yn nwylo pencampwr nofio 10 cilometr Groeg Spyros Gianniotis, a anwyd yn Lerpwl.
Fe wnaeth o wedyn ei drosglwyddo i Alex Loukos, 19 oed o ddwyrain Llundain, a oedd wedi teithio i Singapore fel rhan o gais Llundain i gynnal y Gemau yn 2005.

Fe fydd y ffagl yn teithio 1,8000 milltir drwy Wlad greog a 8,000 milltir yn y DU
Mae ganddo waed Prydeinig a Groegaidd fel Gianniotis.
"Mae'r digwyddiad yma yn alwad ar yr athletwyr i gyd i baratoi ar gyfer y Gemau a dod i Lundain," meddai'r Arglwydd Coe, Cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Wedi'r daith o amgylch Gwlad Groeg fe fydd y Fflam yn cyrraedd Stadiwm Panathenaic yn Athens ddydd Iau Mai 17 pan fydd yn cael ei drosglwyddo i drefnwyr Gemau Olympaidd Llundain
Cafodd y Gemau Olympaidd modern cyntaf ei gynnal yno yn 1896.
Fe fydd y fflam wedyn yn hedfan i faes awyr y Llu Awyr yn Culdrose, ger Helston yng Nghernyw.
Bydd y daith yn y DU yn cychwyn yn Land's End gyda'r hwyliwr Olympaidd Ben Ainslie.
Fe fydd yn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd yn Stratford ar Orffennaf 27 ar ddechrau'r Seremoni Agoriadol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012