Galwad am strategaeth atal camdrin plant
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi galw am strategaeth yng Nghymru i warchod plant rhag cael eu camdrin yn rhywiol.
Mae grŵp Stop It Now! yn dweud y gellid gwarchod mwy o blant pe bai dull "iechyd cyhoeddus" yn cael ei fabwysiadu.
Mae'n dweud bod camdrin rhywiol yn "broblem gudd" gyda 225 o'r 600,000 o blant yng Nghymru yn cael eu hystyried yn fregus ar y gofrestr amddiffyn plant.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Gwenda Thomas, bod angen yr hyder ar fwy o bobl i siarad yn gyhoeddus am y peth.
'Ymateb llawn'
Wrth gyhoeddi adroddiad newydd, dywed Stop It Now! bod eu hymchwil yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 100 o bobl gan gynnwys rhai sydd wedi diodde' camdrin rhywiol, troseddwyr, yr heddlu a staff eraill o asiantaethau gwarchod.
Ymhlith eu targedau mae codi ymwybyddiaeth gyhoeddus a "datblygu a gweithredu ymateb llawn sydd wedi ei gydlynu i'r camdrin rhywiol o blant yn genedlaethol ac yn lleol".
Mae'r ymgyrch hefyd yn ceisio datrys y prinder o wasanaethau ac adnoddau sydd eu hangen i atal camdrin cyn iddo ddigwydd.
Dywedodd rheolwr ymgyrchu Cymru o Stop It Now!, Rebecca Morgan:
"Mae'r broblem o gamdrin plant yn un gudd - allan o'r 600,000 o blant yng Nghymru, dim ond 225 o blant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant fel rhai sydd yn wynebu risg o gael eu camdrin, ond eto rydym yn gwybod bod o leiaf un o bob deg yn diodde'."
Dywedodd Mrs Thomas: "Gall ofn ac ansicrwydd yn aml iawn rhwystro pobl rhag gweithredu er mwyn atal camdrin yn y lle cyntaf, ac mae angen i ni geisio rhoi'r hyder i bobl i siarad yn gyhoeddus am y peth."
Dywedodd Gaynor McKeown o fudiad Cefnogi'r Dioddefwyr: "Mae dal troseddwyr yn hanfodol, ond yn bwysicach na hynny mae angen atal y camdrin yn y lle cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011