Y Fflam Olympaidd: Rhybudd i deithwyr a gyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Olympic torch lit at Culdrose ahead of the relayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed trefnwyr y daith y dylai 95% o boblogaeth Cymru fod o fewn taith awr i daith y fflam

Mae trigolion a busnesau ar hyd taith y Fflam Olympaidd yng Nghymru wedi eu rhybuddio i ddisgwyl oedi ar ffyrdd yn ystod y dyddiau nesaf.

Bydd nifer o ffyrdd yn cael eu cau a disgwylir i dorfeydd mawr i wylio'r daith yng Nghymru rhwng Mai 25 a Mai 30.

Mae cwmniau bysiau yn rhybuddio teithwyr i gadarnhau bod trafnidiaeth ar gael cyn teithio oherwydd y mae'n bosib y bydd gwasanaethau yn cael eu hamharu.

Ar gyfartaledd bydd 115 o bobl yn cludo'r fflam Olympaiddd bob diwrnod ar ei thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig cyn iddi gyrraedd y Stadiwm Olympaidd yn Llundain ar Orffennaf 27 ar gyfer seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd.

Ffyrdd ynghau

Dywed trefnwyr y daith y dylai 95% o boblogaeth Cymru fod o fewn taith awr i daith y fflam.

Fore Gwener bydd y fflam yn gadael Caerwrangon cyn croesi'r ffin i Gymru ychydig cyn 11:00am cyn ymweld â Threfynwy, Rhaglan, Y Fenni, Brynmawr, Blaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl a Chasnewydd cyn gorffen y diwrnod tua 5.30pm yng Nghaerdydd.

Bydd y fflam yn cael ei thywys o gwmpas Cymru tan Fai 30 gan ymweld â nifer o leoliadau gan gynnwys Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Ynys Môn, Llandudno, Wrecsam, a'r Trallwng.

Mae gyrwyr ceir a cherbydau eraill wedi'u rhybuddio ei fod yn bosib y bydd rhaid iddynt deithio ar ffyrdd amgen ac i neilltuo mwy o amser ar gyfer eu teithiau oherwydd y bydd nifer o ffyrdd ynghau.

Dywedodd Cyngor Sir Fynwy fod arwyddion yn rhybuddio teithwyr y bydd ffyrdd ynghau eisoes wedi eu gosod ar ffyrdd yn ogystal â phosteri yn hysbysu pobl ble y gallan nhw weld y fflam Olympaidd.

Dywedodd Cyngor Casnewydd y byddai rhywfaint o oedi o ran trafnidiaeth pan fydd y fflam yn y ddinas rhwng 3.45pm a 4.45pm ddydd Gwener.

Rhwystrau

Ni fydd traffig yn gallu teithio trwy ganol dinas Caerdydd rhwng 5.30pm a 7.00pm ddydd Gwener ond gallai'r ffyrdd fod ynghau o 4.00pm os bydd nifer fawr o bobl yn yr ardal honno.

Dywedodd cwmni Bws Caerdydd y byddant yn gwneud newidiadau i'w gwasanaethau rhwng 5.30pm a 7.00pm y noson honno.

Yn ôl Cyngor Abertawe fe fydd rhai o ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 4.00pm a 7.00pm ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd y cyngor y byddai'r ffyrdd hynny'n ail agor cyn gynted ag y byddai arwyddion a rhwystrau yn cael eu symud ac ar ôl i'r dorf wasgaru.

Yn ôl Cyngor Gwynedd bydd nifer o ffyrdd ynghau ddydd Llun Mai 28 wrth i'r fflam deithio rhwng Dolgellau a Bangor.

Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Uwch Reolwr Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd y cyngor: "Rydym yn cynghori trigolion sy'n teithio ar yr un ffyrdd â'r fflam i neilltuo mwy o amser na'r arfer ar gyfer eu teithiau.

"Fe ddylai'r rheiny sy'n teithio i weld y fflam gyrraedd eu lleoliadau awr o flaen llaw."

Mae Cyngor Ynys Môn yn rhybuddio pobl sy'n byw neu'n teithio o gwmpas Pont Menai a Biwmaris am y tebygrwydd o oedi ar fore dydd Mawrth Mai 29.

Dywedodd Pennaeth Priffyrdd y cyngor, Dewi Williams: "Rydym wedi astudio'r cynlluniau rheoli traffig yn fanwl ac rydym wedi ymghynghori â'r gwasanaethau brys a chynghorwyr sir o bob ward sy'n cael eu heffeithio mewn ymgais i leihau'r oedi."

Y disgwyl yw i dorf enfawr wylio'r fflam yn cael eu cludo ar draws Afon Menai ar fad achub cyn iddi gael ei chludo ar draws Pont Menai.

Dywedodd trefnwyr y Gemau Olympaidd y byddai tîm o 350 o bobl yn hebrwng y fflam Olympaidd ar draws Cymru gan gynnwys aelodau o'r heddlu a swyddogion cynghorau lleol.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol