Fflam Olympaidd yn cyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Fflam Olympaidd wedi cyrraedd Prydain ar ôl cael ei chludo mewn awyren o wlad Groeg.
Fe laniodd ym maes awyr Culdrose yng Nghernyw am 7.26pm nos Wener.
Ar ôl cyflwyniad byr cafodd y fflam ei throsglwyddo i ffagl yn nwylo y peldroediwr David Beckham.
Yn ei wylio oedd y Dywysoges Anne ac Arglwydd Coe, Cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Roedd y tri wedi teithio yn yr awyren gyda'r fflam.
Fore Sadwrn bydd y ffagl yn cael ei chludo 25 milltir mewn hofrennydd i Land's End ar gyfer cychwyn y daith 70 diwrnod led led y Deyrnas Unedig.
Y morwr Ben Ainslie, sydd wedi ennill tair medal aur, fydd y cynta o 8,000 o redwyr i gario'r ffagl.
Bydd y fflam yn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd yn Stratford ar Orffennaf 27 ar gyfer y seremoni agoriadol.
Cyn hynny bydd yn ymweld â Chymru rhwng Mai 25-30.
Bydd dros 80 o drefi, dinasoedd a phentrefi yn cael cyfle i weld y ffagl wrth iddo gael ei chludo gan tua 500 o redwyr drwy Gymru.
Bydd y ffagl yn cyrraedd Trefynwy ar Fai 25.
Fe'i cludir drwy de a gorllewin Cymru, drwy Geredigion ac ar draws y gogledd, gan adael y Trallwng ar Fai 30.
Bydd y ffagl yn aros dros nos yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.
Cafodd fflam y ffagl ei chynnau yn wlad Groeg ar Fai 10 mewn seremoni yn Olympia, cartref y Gemau Olympaidd hynafol.
Aed â'r fflam ar daith 1,800 o filltiroedd o amgylch gwlad Groeg cyn cael ei throsglwyddo i'r Dywysoges Anne yn Athens nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012