Y Ffagl Olympaidd wedi cychwyn ar daith o amgylch y DU
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ffagl Olympaidd wedi cychwyn ar 70 niwrnod o daith o amgylch y DU cyn cychwyn y Gemau yn Llundain fis Gorffennaf.
Yr hwyliwr Olympaidd Ben Ainslie gafodd yr anrhydedd o fod y person cyntaf i gludo'r Ffagl ar daith 8,000 milltir a ddechreuodd o Land's End am 7.15am.
Roedd tyrfa wedi ymgasglu wrth i'r Ffagl gael ei chludo ar hyd strydoedd lleol, gyda miloedd allan ar hyd strydoedd Cernyw.
Yn ystod y diwrnod fe fydd dros 100 o bobl yn ei chludo gan gynnwys y nofiwr Olympaidd Duncan Goodhew a'r rhwyfwr Michael Lapage enillodd fedal arian yn y Gemau yn 1948.
Bydd yn teithio drwy Gernyw ddydd Sadwrn ac i mewn i Ddyfnaint wrth i'r dathliadau cyntaf gael eu cynnal nos Sadwrn yn Plymouth.
Fe wnaeth y Fflam Olympaidd gyrraedd nos Wener ar awyren arbennig o Athen i faes awyr Culdrose yng Nghernyw.
'Awyrgylch gwych'
Roedd y fflam ei hun wedi ei gadw mewn llusern.
Yno y bu'r fflam dros nos cyn ei chludo i Land's End mewn hofrennydd.
"Mae'n rhywbeth na wna i ei anghofio," meddai Ainslie.
"Roedd yn awyrgylch gwych.
"Ond mae'n ôl i realiti yfory a hyfforddi ar gyfer y Gemau."
Bydd y fflam yn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd yn Stratford ar Orffennaf 27 ar gyfer y seremoni agoriadol.
Cyn hynny bydd yn ymweld â Chymru rhwng Mai 25-30.
Bydd dros 80 o drefi, dinasoedd a phentrefi yn cael cyfle i weld y ffagl wrth iddo gael ei chludo gan tua 500 o redwyr drwy Gymru.
Bydd y ffagl yn cyrraedd Trefynwy ar Fai 25.
Fe'i cludir drwy de a gorllewin Cymru, drwy Geredigion ac ar draws y gogledd, gan adael y Trallwng ar Fai 30.
Bydd y ffagl yn aros dros nos yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor gyda digwyddiadau yn y pedair tref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012