Miloedd yn gwylio'r Fflam yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Kelvin Perrett yn croesi Pont Mynwy yn Nhrefynwy
Disgrifiad o’r llun,

Kelvin Perrett yn croesi Pont Mynwy yn Nhrefynwy

Mae'r Fflam Olympaidd wedi cyrraedd y de-ddwyrain.

Am 10.40am fe groesodd y ffin mewn cerbydau i gyfeiriad Trefynwy cyn symud ymlaen i'r Fenni a Brynmawr.

Hwn yw'r diwrnod cyntaf yng Nghymru ac mae'r daith yn cynnwys Pont-y-pŵl, Casnewydd a Chaerdydd lle bydd dathliad yng nghanol y ddinas.

Gareth John oedd y rhedwr cyntaf i gael gafael yn y ffagl yng Nghymru, i mewn i Drefynwy.

Wedi cinio roedd y Fflam ym Mlaenafon, un o Safloedd Treftadaeth y Byd.

Ond ychydig iawn o bobl oedd yn dyst i'r cludwr cyntaf a aeth a'r Fflam i lawr i'r Pwll Mawr.

Mae eraill yn cludo'r Fflam ger y safle ac yn anelu am Abersychan.

Cyn Blaenafon roedd y Fflam yn Y Fenni er bod un sylw siomedig ar Twitter.

"Newydd weld y Fflam, roeddwn yng nghanol y dre ond aeth yr orymdaith ar hyd llwybr arall ...," meddai Loop the Loop.

Roedd 'na chwech o bobl yn cludo'r Fflam yno.

Dywedodd y gohebydd Alun Thomas bod 'na ferw gwyllt yng nghanol Y Fenni.

"Mae nifer o ysgolion wedi ymgasglu yn y dref i roi cyfle iddyn nhw weld y Fflam.

"Mae un o'r chwe rhedwr yn Y Fenni wedi gorfod codi'n gynnar, Sean Lewis o Ysgol Cwm Rhymni, er mwyn sefyll arholiad lefel A ffiseg cyn rhedeg gyda'r Fflam."

Yn Nhrefynwy dywedodd y gohebydd, Iola Wyn: "Dwi wedi gweld y ffagl, mae yn nwylo Gareth John, y cludwr cyntaf," meddai.

'Edrych ymlaen'

Disgrifiad o’r llun,

Dwy ffagl: Y 'gusan' gyntaf yng Nghymru

"Mae Gareth yn uwch swyddog Gemau Paralympaidd ac yn hybu athletau ymhlith pobl anabl.

"Cafodd drawiad ar y galon 20 mlynedd yn ôl.

"Er ei fod yn edrych yn betrusgar fe ddywedodd wrtha i ei fod yn edrych ymlaen at gario'r fflam."

Roedd miloedd o bobl yng nghanol Trefynwy, rhai wedi dechrau ymgasglu ers 8am.

Roedd bandiau yn chwarae a chorau yn canu wrth aros amdani yn y dref.

'Yn bwysig'

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones ymhlith y dorf yn Nhrefynwy.

"Mae'n bwysig bob pawb yn cael cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd," meddai.

"Mae'n bleser gweld y ffagl yn dod i Drefynwy ac mae'n bwsyig bod pawb yn cael cyfle i'w gweld.

"Mae Trefynwy yn edrych yn dda iawn ac mae'n bwysig dangos ein trefi a'n pentrefi ar eu gorau."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Nadine Struijk naid o lawenydd wrth gario'r fflam rhwng Y Fenni a Brynmawr

Cyngerdd

Doedd dim llai o gyffro wrth i'r fflam symud ymlaen i bentrefi a threfi'r de-ddwyrain, ac roedd ymateb swnllyd yn Abersychan a Phont-y-pŵl.

Y ddinas gyntaf yng Nghymru i groesawu'r fflam oedd Casnewydd gyda Hywel Jenkins, llanc 17 oed o Gaerdydd ymhlith y rhedwyr yno.

Mae Hywel yn aelod o garfan pêl-foli dan-17 Cymru, a dywedodd:

"Bu farw fy nhad pan oeddwn yn wyth oed - roedd o i fod i deithio i'r Gemau Paralympaidd yn Athen.

"Mae'r rhan fechan yma o'r Gemau yn bwysig iawn i mi felly - mae'n teimlo fel fy mod yn parhau gyda rhywbeth pwysig."

Pan fydd y fflam yn cyrraedd Caerdydd nos Wener, fe fydd cyngerdd arbennig i estyn croeso, ac un o'r bandiau fydd yn perfformio yw Kids In Glass Houses.

Dywedodd canwr y grŵp o Gaerdydd, Aled Phillips: "Mae'n eitha' sbesial cael perfformio gartref yng nghysgod Castell Caerdydd, a chael bod yn rhan o ras gyfnewid y Fflam Olympaidd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol