Bellamy: Coleman 'ar ben ei ddigon'
- Cyhoeddwyd
Mae Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi dweud ei fod ar ben ei ddigon fod Craig Bellamy wedi rhoi'r gorau i'r posibilrwydd o ymddeol o bêl droed rhyngwladol.
Er gwaethaf sibrydion am ei ymddeoliad posib, mae Bellamy'n aelod o garfan Cymru fydd yn herio Mecsico yn Efrog Newydd ddydd Sul.
Roedd y chwaraewr 32 oed wedi bod yn ystyried ymddeol wedi marwolaeth ei gyfaill a chyn-reolwr Cymru, Gary Speed, y llynedd.
Enillodd ei 68fed gap i'w wlad yng ngêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror.
'Mwy o obaith'
"Rwy'n credu bod Craig yn gwybod ei fod yn rhan fawr o'n cynlluniau," meddai Coleman.
"Mae'n deall y bydd mwy o obaith i Gymru os yw'n aelod o'r garfan."
Bydd Cymru'n chwarae un gêm gyfeillgar arall yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar Awst 15 cyn dechrau eu hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2014.
Ym mis Medi bydd gemau cyntaf Cymru yn erbyn Gwlad Belg a Serbia.
'Tymor hir'
"Rhaid inni ofalu am Craig am fod ei anaf pen-glin yn un tymor hir ac mae'n anodd iddo chwarae dwy gêm mewn wythnos," meddai Coleman.
"Mae Craig yn ddyn ddi-flewyn ar dafod ac nid yw pawb yn hoffi hynny ond nid yw pobl yn gallu cytuno am bopeth.
"Ond mae ychydig o anghytuno yn gallu bod yn iach, yn enwedig mewn timau llwyddiannus."
Fydd Gareth Bale a Joe Ledley ddim yn chwarae i Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ddydd Sul.
Mae'r ddau a David Vaughan (Sunderland), Darcy Blake (Caerdydd) a Neal Eardley (Blackpool) wedi eu hanafu.
"Wrth gwrs, mae colli chwaraewyr yn siomedig ond mae hyn yn rhoi cyfle i rai o'n chwaraewyr ifanc yn erbyn tîm da fel Mecsico," meddai Coleman.
Bydd gêm Cymru yn erbyn Mecsico yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru am 8.00pm nos Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
- Cyhoeddwyd13 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012