Tri chap newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd tri chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn ac un arall yn debyg o ennill ei ganfed cap.
Martyn Williams yw'r hen ben sy'n dychwelyd i'r tîm ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd asgellwr y Gleision, Harry Robinson, a'r ddau Scarlet - y cefnwr Liam Williams a'r prop Rhodri Jones - yn gwisgo'r crys coch rhyngwladol am y tro cyntaf.
Un arall o glwb y Sosban, y bachwr Matthew Rees, fydd y capten yn absenoldeb Sam Warburton a hynny am y nawfed tro.
'Hwb fawr'
Bydd Dan Biggar ac Andrew Bishop yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers cyn Cwpan y Byd 2011.
Dywedodd yr hyfforddwr Rob Howley: "Mae'r Gweilch wedi bod yn chwarae'n wych ac roedd eu buddugoliaeth yn rownd derfynol y Pro12 yn hwb fawr i rygbi yng Nghymru.
"Mae Dan ac Andrew wedi bod yn chwarae'n dda ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yng nghrys Cymru unwaith eto.
"Rydym wedi dewis chwaraewyr sy'n chwarae'n dda, yn anelu at ddatblygu chwaraewyr i'r dyfodol ond hefyd yn canolbwyntio ar ddechrau gemau'r haf gyda buddugoliaeth."
Un arall allai ennill ei gap cyntaf o'r fainc yw canolwr y Scarlets, Adam Warren.
Paratoi
Bydd Ryan Bevington yn aros yng Nghaerdydd fel chwaraewr wrth gefn i Gymru gyda gweddill y garfan hyfforddi o 38 yn hedfan i Awstralia ddydd Iau er mwyn paratoi at y gêm yn erbyn y Wallabies yn Brisbane.
Bryd hynny 16 o chwaraewyr fydd yn gadael a bydd enwau gweddill y garfan o 34 ar y daith yn cael eu henwi yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Os bydd Martyn Williams yn codi o'r fainc i ennill ei ganfed cap yn ôl y disgwyl, fe fydd yn ymuno â chriw dethol, Stephen Jones a Gareth Thomas.
Tîm Cymru yn erbyn y Barbariaid: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd: ddydd Sadwrn, Mehefin 2, 2pm :-
15. Liam Williams (Scarlets)
14. Harry Robinson (Gleision)
13. Andrew Bishop (Gweilch)
12. James Hook (Perpignan)
11. Aled Brew (Dreigiau)
10. Dan Biggar (Gweilch)
9. Lloyd Williams (Gleision)
1. Rhys Gill (Saracens)
2. Matthew Rees (Scarlets, capten)
3. Rhodri Jones (Scarlets)
4. Alun Wyn Jones (Gweilch)
5. Ian Evans (Gweilch)
6. Josh Turnbull (Scarlets)
7. Justin Tipuric (Gweilch)
8. Ryan Jones( Gweilch)
Eilyddion :- Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Martyn Williams (Gleision), Rhys Webb (Gweilch), Adam Warren (Scarlets), Will Harries (Driegiau).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012