Cymru 30-21 Barbariaid
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth yn eu gem olaf cyn y daith haf i Awstralia.
Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn y Barbariaid hefyd yn achlysur i ffarwelio a dau o gewri'r gêm yng Nghymru, Shane Williams a Martin Williams.
Daeth blaenasgellwr y Gleision i'r maes yn yr ail hanner gan ennill ei 100fed cap rhyngwaldol.
Meddiant
Cymru aeth ar y blaen 13-0 gyda chais gan yr asgellwr ifanc Harry Robinson oedd yn ennill ei gap cyntaf, ac esgid James Hook yn ychwanegu'r pwyntiau eraill.
Ond fe darodd y Barbariaid cyn yr egwyl gyda Stephen Donald a'r Cymro Rhichie Rees yn croesi.
Fe wnaeth y Baa-Baas ymestyn eu mantais gyda Donald yn croesi am ei ail gais.
Roedd Cymru yn cael hi'n anodd cael meddiant am gyfnodau hir o'r ail hanner.
Gydag amser yn prinhau fe lwyddodd y mewnwr Rhys Webb i ryddhau Hook gyda phas ddestlus.
Dangosodd y maswr ei ddoniau drwy dwyllo'r amddiffynfa a rhedeg 35 metr i'r llinell.
Doedd yna ddim cais i Shane Williams. Daeth cyfle iddo, ond iddo gael ei daclo gan Martin Williams.
Wrth i'r Barbariaid geisio cais yn y munudau olaf llwyddodd Aled Brew i ryng-gipio'r bel a sgorio trydydd cais Cymru.
Hwn oedd gem gyntaf Cymru o dan arweiniad yr hyfforddwr Rob Howley.
Cymru: Liam Williams (Scarlets); Harry Robinson (Gleision), Andrew Bishop (Gweilch), James Hook (Perpignan), Aled Brew (Dreigiau); Dan Biggar (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision); Rhys Gill (Saracens), Matthew Rees (Scarlets, capt), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch, am Rees, 68), Paul James (Gweilch, am Gill ), Aaron Shingler (Scarlets, am Ryan Jones, 51), Martyn Williams (Gleision, am Alun Wyn Jones, 46), Rhys Webb (Gweilch, am Lloyd Williams, 51), Adam Warren (Scarlets, am Biggar, 64), Will Harries (Dreigiau, am Robinson, 68).
Barbariaid: Mils Muliaina; Isa Nacewa, Casey Laulala, Mike Tindall, Shane Williams; Stephen Donald, Richie Rees; Duncan Jones, Benoit August, John Smit (capt), Mick O'Driscoll, Matt Chisholm, Francois Louw, Johnnie Beattie, Mamuka Gorgodze.
Eilyddion: Cedric Heymans am Muliaina (66), Sailosi Tagicakibau amLaulala (46), Aled de Malmanche am August (40), Neemia Tialata amSmit (46), Anton van Zyl am O'Driscoll (40).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012