Cyflogwyr Cymru'n besimistaidd
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg gan asiantaeth gyflogaeth yn awgrymu bod cyflogwyr yng Nghymru yn besimistaidd am gyflogaeth yn y wlad, a hynny'n groes i'r farn yng ngweddill y DU.
Dywed Arolwg Rhagolygon Cyflogaeth Manpower bod cyflogwyr yn disgwyl crebachiad o 5% yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, 4% yn waeth na'r chwarter blaenorol.
Mae arolwg asiantaeth Manpower yn seiliedig ar ymatebion 2,100 o gyflogwyr drwy'r DU, ac mae'n gofyn a oes gan gyflogwyr fwriad i gyflogi mwy neu lai o weithwyr yn y chwarter nesaf.
Mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu defnyddio gan Fanc Lloegr a llywodraeth y DU fel ystadegyn economaidd allweddol.
Trwy Brydain, mae'r arolwg yn dangos rhagolygon o +1%, sy'n awgrymu bod y farchnad swyddi yn dal yn bositif, ond mae cyflogwyr Cymru yn llawer llai gobeithiol.
'Parodrwydd i ddysgu'
Dywedodd Andrew Shellard o Manpower: "Mae agwedd cyflogwyr Cymru yn ymddangos wedi suro ymhellach wrth i ni edrych at y trydydd chwarter, ac mae'n farchnad heriol i'r rhai sy'n chwilio am waith.
"Ond dyw'r newyddion ddim yn ddrwg i gyd i Gymru. Mae yna gyfleoedd o hyd, yn enwedig yn y sector cyfleusterau ac i ymgeiswyr gyda sgiliau technoleg gwybodaeth.
"Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd i ateb galw gan ddarpar gyflogwyr - dyna'r rhai fydd yn ennill wrth geisio am swyddi newydd."
Nid Cymru oedd â'r sgôr gwaethaf yn yr arolwg, gyda'r Alban yn disgwyl crebachiad o 6%.
Roedd De Ddwyrain Lloegr ar +5% a Llundain ar +3%.
Ond yr ardal orau o bell oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr gyda rhagolygon o +12% ar gyfer y chwarter nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012