Diweithdra menywod: 'Yr uchaf erioed'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Byd GwaithFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) mai hwn yw'r ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1992

Mae diweithdra ymysg menywod yng Nghymru wedi codi i'r lefel uchaf erioed yn dilyn blwyddyn pan gododd y raddfa yn uwch na diweithdra ymysg dynion.

Er bod canran mwy o ddynion yn dal yn ddi-waith mae diweithdra ymysg menywod wedi codi i 8.3%.

Dywed Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) mai hwn yw'r ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1992.

Mae asiantaeth cyfle cyfartal blaenllaw yn beio'r toriadau yn y sector cyhoeddus ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni bod cefnogaeth benodol ar gael i fenywod sy'n chwilio am waith.

Lwfans ceiswyr gwaith

Mae'r cynnydd mewn diweithdra wedi ei achosi'n uniongyrchol gan y cynnydd mewn diweithdra ymysg menywod am bum mis o'r bron.

Mae 57,000 o fenywod yn ddi-waith yng Nghymru yn ôl y ffigyrau diweddaraf sy'n berthnasol i'r tri mis tan ddiwedd mis Mawrth.

Mae hyn yn golygu bod diweithdra ymysg menywod wedi codi 34.4% ers yr un cyfnod y llynedd o'i gymharu â chynnydd o 17.8% o ran dynion a menywod a 7.8% o ran dynion.

Roedd 24,500 o fenywod yn derbyn lwfans ceiswyr gwaith ym mis Ebrill, 14% yn uwch nag Ebrill 2011 ac roedd 55,000 o ddynion yn derbyn yr un lwfans, 10.2% yn uwch nag Ebrill 2011.

Dywedodd Yr Adran Gwaith a Phensiynau fod yna gynnydd o ran y menywod sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig gan ychwanegu bod y rhif hwn yn uchel er gwaethaf y dirwasgiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Gall y menywod hynny sydd yn ddi-waith hirdymor neu sy'n dychwelyd i'r gweithlu gael at y gefnogaeth dychwelyd i'r gwaith mae'r Rhaglen Gwaith yn cynnig."

Economaidd anweithgar

Ond yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) a Chwarae Teg, sy'n hybu datblygu economaidd menywod mae toriadau'r sector cyhoeddus wedi cael effaith wael ar gyfleoedd gwaith i fenywod.

Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Katy Chamberlain: "Mae'r sector cyhoeddus yn cynnig swyddi rhan amser o safon a chyfleoedd gwaith hyblyg eraill ac, o ganlyniad, mae'n bosib fod yn rhaid i fenywod sy'n gadael y sector hwnnw dderbyn cyflog is."

Dywedodd Richard Exell, uwch economydd y TUC, fod newidiadau i oedran ymddeol y wladwriaeth er mis Ebrill 2010 wedi cael effaith.

Ychwanegodd fod menywod dros 60 oedd nad ydynt yn gweithio yn awr yn cael eu cyfri ymysg y di-waith, yn wahanol i'r sefyllfa cyn mis Ebrill 2010 lle byddent wedi cael eu cofnodi yn economaidd anweithgar.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol