Cofio milwyr y Falklands 30 mlynedd wedi diwedd y rhyfel
- Cyhoeddwyd
Gwasanaeth o goffâd fydd yn cael ei gynnal yn Abertawe i nodi 30 mlynedd diwedd Rhyfel Y Falklands ddydd Iau.
Mae'r gwasanaeth yn Eglwys Y Santes Fair yng nghanol y ddinas yn gyfle i aelodau Cymdeithas Medalau De Iwerydd (82) Cymru (SAMA Cymru) nodi'r digwyddiad.
Fe fydd cyn-filwyr o bob cwr o'r DU yn bresennol.
Mae'r gymdeithas yn cynrychioli holl filwyr wasanaethodd yn y rhyfel, gan gynnwys y fyddin, y llynges a'r llu awyr.
Mae hefyd yn cynrychioli teuluoedd y rhai a gollwyd.
Cafodd 258 o bobl eu lladd, gan gynnwys tri o ynyswyr, yn y rhyfel yn 1982.
Ar Ebrill 2 1982, glaniodd milwyr o'r Ariannin ar yr ynysoedd sy'n dod o dan ofal Prydain.
Croes a sgrôl
Pum niwrnod wedyn, roedd aelodau o fyddin Prydain yn cychwyn eu siwrne forol hir fel rhan o'r cyrchlu Prydeinig.
Yn y cyfamser ddydd Iau, fe fydd teulu milwr a laddwyd yn y rhyfel yn derbyn Croes Elizabeth a sgrôl.
Roedd yr is-sarjant Kevin Keoghane, 30 oed, yn gwasanaethu ar ffwrdd y llong rhyfel Syr Galahad gyda Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig.
Pan ymosodwyd ar y llong ar Fehefin 8 1982 roedd adroddiadau ei fod ar goll ac ofnai ei fod wedi marw.
Fe fydd ei weddw ai fab, a anwyd ddau fis wedi'r ymosodiad, yn derbyn y fedal a'r sgrôl.
Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno mewn cydnabyddiaeth i deuluoedd y rhai a fu farw wrth wasanaethu eu gwlad.
Bydd Jane Keoghane yn derbyn y Fedal a Philip Keoghane yn derbyn sgrôl, yn ystod noson o gerddoriaeth filwrol yn Y Barics, Aberhonddu nos Iau.
Cafodd 32 o'r 48 aelod o Fyddin Prydain oedd ar Fwrdd y Syr Galahad eu lladd.
Roedd hyn yn cyfateb i 20% o holl farwolaethau Prydeinwyr, nifer yn Gymry, yn ystod y rhyfel.
Daw'r gwasanaeth a'r cyngerdd ddiwrnod cyn i Is-Lywydd y Cynulliad, David Melding, osod torch o flodau yn Bluff Cove ar Ynysoedd y Falkland i nodi 30 mlynedd y rhyfel.
Mae o eisoes wedi gosod torch ger cofeb y Gwarchodlu Cymreig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012