Dechrau brechu moch daear
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi cadarnhau bod y rhaglen frechu moch daear wedi dechrau o ddifrif.
Dechreuodd y rhaglen yn ffurfiol ddydd Llun, Mehefin 11, a bydd yn parhau trwy gydol yr haf a dechrau'r hydref.
Y nod yw gwaredu diciâu gwartheg.
Hyd yn hyn mae 275 o foch daear wedi cael eu dal a'u brechu, gan gynnwys yn ystod y cyfnod prawf.
Ym mis Mawrth penderfynodd Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gynlluniau difa moch daear ac yn eu lle gyflwyno cynllun brechu ar ôl ystyried y dystiolaeth wyddonol.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ar y pryd fod penderfyniad y llywodraeth yn "frad llwfr".
Roedd y Llywodraeth Lafur-Plaid Cymru flaenorol wedi bwriadu trefnu cynllun peilot i ddifa moch daear yn y gorllewin.
'Clefyd creulon'
Dywedodd y gweinidog ddydd Iau: "Mae ein fframwaith strategol ar gyfer dileu'r clefyd yn cydnabod bod rhaid i ni ymdrin â diciâu gwartheg o bob math ... os ydym yn mynd i lwyddo i ddileu'r clefyd creulon hwn.
"Penderfynais fynd ymlaen â'r rhaglen frechu ym mis Mawrth ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu symud y gwaith yn ei flaen mor gyflym a bod y rhaglen frechu wedi dechrau yn yr Ardal Triniaeth Ddwys.
"Hoffwn ddiolch i ffermwyr a thirfeddianwyr am weithio gyda ni.
'Monitro'
"Byddwn yn monitro canlyniadau'r rhaglen frechu a'n rhaglen ddileu gyfan yn ofalus er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn yn ein symud tuag at wireddu ein prif nod sef rhyddhau Cymru o grafangau diciâu gwartheg."
Mae'r rhan helaeth o'r Ardal Triniaeth Ddwys yng ngogledd Sir Benfro ond mae'n cynnwys rhannau bach o Geredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd.
Maint yr Ardal Triniaeth Ddwys yw rhyw 288 cilometr sgwâr.
Staff Llywodraeth Cymru sy'n cynnal y rhaglen frechu hon ac maent wedi cwblhau cwrs yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd sy'n ymwneud â thrapio moch daear mewn cawell a rhoi pigiad iddyn nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011