'Dal yn obeithiol' am ail atomfa ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Ynni wedi dweud ei fod yn dal yn obeithiol y bydd ail atomfa ar Ynys Môn.
Dywedodd Charles Hendry wrth staff yr atomfa fod gan y diwydiant ynni niwclear ddyfodol ar Ynys Môn ac yn y DU.
"Mae 'na lawer o ddiddordeb," meddai, "ac o ganlyniad dwi'n hyderus y bydd rhywun yn bwrw ymlaen â'r datblygiad ac y bydd ail atomfa ar yr ynys.
"Rydym yn frwd iawn y dylai'r safle gael ei ddatblygu ac felly mae gweithwyr â'r sgiliau angenrheidiol yn rhan hanfodol o'r holl broses."
£480,000
Yr un diwrnod cyhoeddodd y byddai'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear yn rhoi £480,000 i Raglen Ynys Ynni Môn.
Cyfarfu Mr Hendry â myfyrwyr yng Nghanolfan Ynni Coleg Menai, swyddogion cwmni Horizon, Rhaglen Ynys Ynni Môn, cwmni Magnox, a Phrifysgol Bangor.
Mae disgwyl i'r gwaith o gynhyrchu trydan ddod i ben yn 2014.
Gorffennodd Adweithydd 2 yn Yr Wylfa, a ddechreuodd weithredu yn 1971, gynhyrchu trydan ym mis Ebrill.
Opsiwn gorau
Fe fydd Adweithydd 1 yn parhau i gynhyrchu trydan tan 2014.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai Ynys Môn yw'r opsiwn gorau i ddatblygu ynni niwclear ac mae'r cwmnïau sydd y tu ôl i'r cynllun i godi Wylfa B yn dweud bod y prosiect yn dal yn fyw.
Mae cwmnïau E.On ac RWE npower, oedd wedi sefydlu cwmni Horizon i ddatblygu Wylfa B, yn dal i chwilio am berchennog newydd ar gyfer y cwmni.
Y bwriad oedd i Horizon godi atomfa newydd - Wylfa B - a fyddai wedi dechrau cynhyrchu trydan o 2025 ar ôl adolygiad.
Cyn ei ymweliad dywedodd y gweinidog y gallai Ynys Môn helpu creu ynni ar gyfer y DU am ddegawdau.
'Cyfoethog'
"Mae ganddi hanes cyfoethog o ran y diwydiant niwclear, gweithlu medrus, a chymuned frwdfrydig.
"Bydd y cyllid newydd rwy'n ei gyhoeddi yn galluogi'r cyngor i fuddsoddi mewn addysg, sgiliau, ac isadeiledd a hybu'r economi lleol."
Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Bryan Owen: "Mae'n briodol i'r Gweinidog wneud ei ddatganiad ar Ynys Môn oherwydd bydd gan Wylfa un o'r safleoedd niwclear newydd yn Ewrop."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012