Wylfa: Diffodd un o'r adweithyddion niwclear am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r adweithyddion yn atomfa Wylfa ar Ynys Môn wedi cael ei ddiffodd am y tro olaf.
Dywedodd swyddogion bod Adweithydd 2, a ddechreuodd weithredu yn 1971, i fod i roi'r gorau i gynhyrchu trydan oherwydd diffyg cyflenwad tanwydd ddydd Llun, Ebrill 30.
Ond cododd broblem technegol gyda'r adweithydd olygodd bod rhaid ei ddiffodd nos Fercher.
Fel arfer, fe fyddai'r adweithydd wedi cael ei ailgynnau o fewn dyddiau, ond oherwydd bod dyddiad diffodd yr adweithydd yn barhaol mor agos, fe wnaed y penderfyniad i beidio gwneud hynny.
Mae gan Adweithydd 1 drwydded i weithredu tan 2014.
Dywedodd Brian Burnett, pennaeth y rhaglen ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, perchnogion y safle, fod gan Wylfa "hanes hir o gynhyrchu trydan yn ddiogel".
Dydd Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr safle'r atomfa, Stuart Law: "Mae Adweithydd 2 wedi gweithredu'n ddiogel yn ystod y pedwar degawd diwethaf ac mae'n rhaid rhoi clod i'r gweithlu sydd wedi cynnal a chadw'r safle'n ddiogel.
"Gallwn gadarnhau y bydd yr adweithydd yn cael ei ddiffodd ar Ebrill 30 ac fe fyddwn yn canolbwyntio ar barhau cynhyrchiant Adweithydd 1."
Wylfa yw'r unig atomfa Magnox sy'n dal i gynhyrchu trydan ar ôl cau gorsaf Oldbury ar ddiwedd mis Chwefror, a'r safle ar Ynys Môn yw'r olaf o'i fath i gael ei adeiladu yn y DU.
Wylfa B
Mae cwmnïau E.on ac RWE npower yn chwilio am berchennog newydd i Horizon Nuclear Power, y cwmni oedd wedi ei ddewis ar y cyd i ddatblygu Wylfa B.
Fis diwetha' penderfynodd y cwmni i dynnu'n ôl o gynllun i adeiladu atomfa Wylfa B a ddylai fod wedi'i chwblhau erbyn 2025.
Y bwriad oedd i'r atomfa newydd gymryd lle'r atomfa bresennol.
Roedd undebau, gwleidyddion ac arweinwyr cymunedau wedi datgan eu siom ar ôl y penderfyniad ond cafodd ei groesawu gan ymgyrchwyr gwrth niwclear.
Yna ym mis Ebrill roedd 'na rai adroddiadau bod cwmni niwclear o Rwsia yn ystyried datblygu'r atomfa.
Mae'r cwmni o Rwsia, Rosatom, yn codi atomfeydd newydd yn India ar hyn o bryd.
Ond dywedodd swyddogion gwasg RWE npower ac E.on mai "dyfalu" oedd yr adroddiadau am ddiddordeb y cwmni o Rwsia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012