Gostyngiad yn nifer y di-waith
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 2,000 rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, yn ôl ystadegau swyddogol.
Dywedodd swyddogion fod y sefyllfa'n adlewyrchu'r darlun yng ngweddill Prydain.
Erbyn hyn, canran y di-waith yng Nghymru yw 9% tra bod 8.2% yng ngweddill Prydain ar gyfartaledd.
Ond mae diweithdra ymhlith merched wedi codi 4,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Roedd 132,000 o ddynion a merched yn ddi-waith yn ystod y cyfnod yng Nghymru.
'Tipyn o waith'
Dros y DU fe wnaeth y nifer ostwng 51,000 i 2.61 miliwn.
"Er bod diweithdra yng Nghymru yn gostwng, mae ffigyrau heddiw yn datgelu bod 'na dipyn o waith i'w wneud o hyd er mwyn i'r lefelau wella," meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Eglurodd bod rhaid i lywodraethau Cymru a San Steffan gydweithio i greu'r amgylchiadau cywir ar gyfer twf.
"Dydi Cymru ddim wedi ei heithrio gan yr ansicrwydd a achoswyd gan yr ewro a'r her gymhleth yn y farchnad lafur ar hyn o bryd."
Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, eu bod yn gwneud popeth posib i gefnogi economi Cymru.
"Mae'n rhaglen ar gyfer y llywodraeth yn rhoi swyddi yng nghalon yr hyn yr ydym yn ei wneud ac rydym wedi cymryd camau clir a phenderfynol i ateb rhai o'r anawsterau sy'n wynebu busnesau a'r rhai sy'n chwilio am waith yng Nghymru."
O'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd mae 17,000 yn fwy o bobl Cymru yn ddi-waith.
Roedd mwy yn gwneud cais am fudd-dal chwilio am waith, 80,000 ym mis Mai, sef 6,900 yn fwy na'r un mis yn 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012