Apêl i godi Cofeb Lofaol Genedlaethol i Gymru
- Cyhoeddwyd

Llun o'r archifau o drychineb Senghennydd yn 1913 lle collwyd 440 o fywydau
Mae Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi apêl er mwyn codi Cofeb Genedlaethol Lofaol Cymru.
Carwyn Jones sy'n gwneud hynny wrth ymweld â safle trychineb glofaol gwaethaf Prydain, sef Glofa Universal yn Senghennydd, ddydd Iau.
Y Cynghorydd John Roberts yn ymweld â Rhianydd Jones, 89 oed, i drafod cynnwys cerdyn post arbennig
Cafodd 440 o ddynion a bechgyn eu lladd pan fu ffrwydrad yno yn 1913, gan effeithio ar bron bob cartref yng Nghwm Aber.
Mae Grŵp Treftadaeth Cwm Aber wedi gwahodd y Prif Weinidog i'r pentref er mwyn lansio'r apêl.
"Mae glo yn ganolog i stori Cymru," meddai Mr Jones.
"Dyma sydd wedi siapio ein hanes a'n cymunedau, ac mae'r gwaddol cymdeithasol a chorfforol yn dal gyda ni tan heddiw.
"Roedd amser pan oedd trychinebau glofaol yn drist o gyffredin, ac yn ddiweddar hyd yn oed, fe welsom bedwar dyn yn colli eu bywydau mewn digwyddiad ym mhwll y Gleision - rhywbeth oedd yn atgof o beryglon y diwydiant.
"Mae'n iawn felly i ni gael cofeb barhaol i'r rheini - yn y gorffennol a'r presennol - sy'n mynd o dan ddaear i chwilio am lo."
Gweithgareddau
Mae'r Grŵp Treftadaeth yn datblygu cynllun i godi cofeb yn agos at safle hen bwll Universal a fydd yn cael ei chysegru i bob cymuned lofaol ar draws Cymru, ond hefyd yn anrhydeddu'r rhai fu farw yn nhrychineb glofaol mwyaf hanes Prydain.
Cafodd y cynllun gefnogaeth ariannol gan Gyngor Caerffili a Chronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ynghyd â nifer o gyfraniadau cymunedol.
Daeth £48,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer rhaglen o weithgareddau fydd yn codi ymwybyddiaeth o'r trychineb yn ogystal â chreu'r gofeb.
Sgwrs lawn Gwenllian Glyn gyda Rhianydd Jones, 89 oed, am ei hatgofion
Mae'r rhain yn cynnwys archwilio cofnodion cyhoeddus er mwyn adnabod bob un fu farw yn Senghennydd, hyfforddiant mewn ysgrifennu creadigol a straeon digidol, a gweithdai cerameg er mwyn creu teiliau coffa i bob glöwr fu farw.
Canolbwynt o barch
Dywedodd pennaeth CDL yng Nghymru, Jennifer Stewart: "Mae ein gorffennol diwydiannol yn rhan bwysig o dreftadaeth Cymru, yn enwedig yng nghymoedd y de.
"Mae'n wych bod arian CDL yn galluogi Grŵp Treftadaeth Cwm Aber a'r gymuned i nodi'r digwyddiad pwysig i greu cofeb barhaol i lowyr dewr sy'n peryglu eu bywydau yn ddyddiol."

Rhianydd Jones gyda'r Cynghorydd John Roberts a'r cerdyn post
Bydd y cynllun terfynol yn cynnwys gardd a mur coffa, a cherflun gan yr artist Les Johnson fydd yn dirnod symbolaidd fel canolbwynt o barch i lowyr Cymru.
Wrth ymchwilio i hanes trychineb pwll glo Senghennydd yn 1913, aeth Gwenllian Glyn, gohebydd Post Cyntaf BBC Cymru, gyda'r Cynghorydd John Roberts o Gaerffili i holi Rhianydd Jones. Roedd Mr Roberts wedi dod o hyd i gerdyn post gan un a oroesodd y trychineb i'w deulu yn Nhrawsfynydd - ynddo mae'r awdur, sef "Bob" yn dweud wrth ei deulu ei fod yn iawn ac yn son am eraill lwyddodd i ddianc. Ymhlith y rheini oedd perthnasau i Mrs Jones, sy'n 89 oed ac wedi byw yn Senghennydd ar hyd ei hoes. Dydi hi ddim yn glir pwy yw awdur y cerdyn post ons os oes ganddoch chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch efo BBC Cymru drwy ebost newyddionarlein@bbc.co.uk neu os oes gynnoch chi ragor o straeon fel hyn, mae croeso i chi gysylltu efo ni. Mae'r Prifardd Myrddin ap Dafydd wrthi'n paratoi cyfrol llyfr am Senghennydd i nodi 100 mlynedd ers y trychineb ac yn awyddus i glywed mwy am gysylltiadau fel hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011