Prynwr arall i'r Wylfa?
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni o Ffrainc ac un o China yn cyflwyno cynnig i brynu busnes ynni niwclear Horizon, gan gynnwys safle'r Wylfa ar Ynys Môn.
Mae disgwyl i Areva o Ffrainc a Guangdong Nuclear Power Corporation Holding (CGNPC) gyflwyno cais ar y cyd i brynu'r busnes.
Ym mis Mawrth cyhoeddodd perchnogion Horizon Nuclear Power - RWE ac E.on - nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun i godi ail atomfa ar Ynys Môn.
Ond dywedodd eu prif weithredwr ar y pryd fod Wylfa yn parhau i fod yn un o'r safleoedd mwyaf deniadol yn Ewrop ar gyfer atomfa.
Mae gwrthwynebwyr ynni niwclear ar Ynys Môn wedi bod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn mynnu y dylid ystyried ffynonellau eraill o ynni yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn Fukushima wedi'r daeargryn a'r tsunami yn Japan y llynedd.
Ond mae arbenigwyr ym maes ynni niwclear yn cytuno bod Wylfa yn safle deniadol i fuddsoddwyr eraill gan fod llawer o'r gwaith cychwynnol eisoes wedi ei wneud gan Horizon.
Tri chynnig?
Roedd sibrydion ym mis Mawrth y byddai cwmni Rosatom o Rwsia yn gwneud cynnig ac mae sibrydion pellach ers hynny y gallai cwmnïau Westinghouse a SNPTC wneud cais ar y cyd.
Cafodd Horizon ei roi ar werth oherwydd pwysau o'r Almaen wedi iddyn nhw benderfynu cael gwared ar ynni niwclear yn raddol wedi damwain Fukushima.
Mae Horizon yn berchen ar ddau safle, sef Wylfa ac Oldbury ger Bryste.
£15 biliwn
Eu bwriad oedd buddsoddi £15 biliwn i godi gorsafoedd niwclear gyda'r gallu i gynhyrchu 6 GW o ynni.
Dywedodd Prif Weithredwr Areva, Luc Oursel: "Byddwn yn rhan o gynlluniau llywodraeth y DU i wireddu'r cynllun yma, fwy na thebyg gyda chwmnïau ynni o China a phartneriaid eraill.
"Erbyn diwedd y flwyddyn, fwy na thebyg, bydd y gwerthwyr yn cyhoeddi eu dewis am y tîm fydd yn cymryd awenau'r cynllun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012