Bwyd yn ganolbwynt i daith y tywysog a'r dduges
- Cyhoeddwyd
Mae Tywysog Cymru a Duges Cernyw wedi bod yn blasu sglodion ar lan y môr ar drydydd diwrnod eu taith yng Nghymru.
Roedd tua 200 wedi ymgasglu y tu allan i siop sglodion New Celtic yn Aberaeron.
Dywedodd y perchennog, Heather Thomas, iddi ofyn i'r tywysog lofnodi plât er mwyn iddi ei roi ar y wal.
Eisoes mae wedi llwyddo i gasglu llofnodion Warren Gatland, George North a Stephen Jones.
Lleol
Dywedodd Paul Davies, oedd yn gweini'r sglodion, i'r tywysog ofyn a oedd y bwyd yn cael ei ddarparu gan gynhyrchwyr lleol.
Hefyd aeth y tywysog a'r dduges i farchnad fferm lle oedd cyfle i flasu cynnyrch lleol.
Cafodd y pâr brehinol gyfle i flasu caws lleol a chwrw wedi ei fragu'n lleol.
Canodd côr Ysgol Gynradd Aberaeron yn ystod yr ymweliad a roedd Nest Jenkins, 13 oed o Ledrod, yn canu'r delyn.
Wedyn mae'r tywysog yn cyfarfod â pherchnogion Melin Ddŵr Felin Ganol sy'n cynhyrchu blawd gan ddefnyddio dŵr Afon Wyre yn Llanrhystud, naw milltir i'r de o Aberystwyth.
Cymunedau gwledig
Yna mae'r tywysog, Llywydd Menter Mynyddoedd y Cambrian, yn ymuno â ffermwyr, perchnogion siopau lleol, a phobl busnes eraill yng nghyfarfod bwrdd y fenter yn Nhregaron.
Mae'r mudiad yn brosiect sy'n anelu at hyrwyddo mentergarwch ymhlith cymunedau gwledig, yn diogelu'r amgylchedd ac yn ychwanegu gwerth at gynnyrch a gwasanaethau yn y canolbarth.
Mae'r dduges yn cynnal te parti i blant a staff hosbis Tŷ Hafan yn ei chartref, Llwynywermod, Myddfai.
Cychwynnodd y daith ddydd Llun yn ninas diweddara Cymru, Llanelwy cyn ymweld â Bodnant, Y Fali a Cheredigion.
Dydd Mawrth roedd y ddau yng ngwasanaeth diolchgarwch Eglwys Gadeiriol Aberhonddu cyn iddyn nhw gyfarfod â gwirfoddolwyr a thrigolion lleol wrth nodi 200 mlwyddiant Camlas Trefynwy ac Aberhonddu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012