Tywysog Cymru i drafod bwyd a ffermio mewn anerchiad

  • Cyhoeddwyd
Tywysog Cymru a Duges Cernyw ym Modnant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tywysog a Duges Cernyw wedi cael blas ar fwyd o Gymru ar y daith

Fe fydd Tywysog Cymru yn rhannu ei weledigaeth ar fwyd a dyfodol ardaloedd cefn gwlad ar ddiwrnod olaf ei ymweliad blynyddol â Chymru.

Mae disgwyl i'r Tywysog siarad mewn seminar bwyd a ffermio yn Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, Sir Gâr.

Bwriad y digwyddiad yw cyfrannu ar strategaeth bwyd newydd i Gymru gan edrych ar farchnata, twristiaeth a sgiliau gwledig.

Bydd y Tywysog yn ymuno yn y digwyddiad gydag Alun Davies, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.

Mae'r Tywysog yn enwog am ei gefnogaeth i ffermio organic gyda bwyd yn cael ei gynhyrchu ar ei stad yn Highgrove, Sir Gaerloyw, sydd ar werth i'r cyhoedd.

Gwirfoddolwyr

Bydd y Tywysog hefyd yn ymweld â bragdy Felinfoel a swyddfa newydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Llanelli.

Bydd hefyd yn cyfarfod gwirfoddolwyr elusen InKind Direct, y mae'n llywydd arni, yn Abertawe.

Cychwynnodd y daith i'r Tywysog a Duges Cernyw ddydd Llun yn ninas diweddara Cymru, Llanelwy cyn ymweld â Bodnant, Y Fali a Cheredigion.

Dydd Mawrth roedd y ddau yng ngwasanaeth diolchgarwch Eglwys Gadeiriol Aberhonddu cyn iddyn nhw gyfarfod â gwirfoddolwyr a thrigolion lleol wrth nodi 200 mlwyddiant Camlas Trefynwy ac Aberhonddu.

Dydd Mercher cafodd y ddau gyfle i flasu sglodion ar lan y môr yn Aberaeron a chyfarfod â pherchnogion Melin Ddŵr Felin Ganol.

Roedd gan y Tywysog gyfarfod o Menter Mynyddoedd y Cambrian gan ei fod yn llywydd y fenter a bu'r Dduges yn cynnal te parti er budd Hosbis Tŷ Hafan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol