Y pumed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd

Dydd Mercher, yn y pwll nofio oedd prif sylw'r Cymry er bod 'na godi pwysau a gêm bêl-droed yn y Gemau Olympaidd.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

NOFIO:

Methodd Jemma Lowe ag ennill medal i Brydain yn rownd derfynol 200m dull pili pala yn y ganolfan Campau Dŵr nos Fercher.

Gorffennodd Lowe yn y chweched safle mewn amser o 2 funud 06:80 eiliad yn dilyn ymdrech lew yn ystod 150 metr gynta'r ras.

Yr enillydd oedd Jiao Liuyang o Tsieina mewn amser o 2 funud 06:80 eiliad.

Fore Mercher roedd siom i Marco Loughran yn y ras 200m dull cefn. Yn y rhagbrawf fe orffennodd Loughran yn seithfed, ac er nad oedd ei amser, 1 munud 58.72 eiliad, yn bell i ffwrdd o'i amser gorau erioed, does ganddo ddim gobaith o gyrraedd y rownd nesaf nos Fercher.

CODI PWYSAU:

Mae Natasha Perdue wedi gorfod tynnu allan o'r gystadleuaeth i ferched 69kg. Yn 36 oed, Natasha yw aelod hynaf o garfan codi pwysau Prydain.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Natasha Perdue anaf i'w chefn yn ystod y gystadleuaeth

Llwyddodd i godi 92kg ar yr ail gynnig, ond wrth geisio yn aflwyddiannus i godi 95kg, fe gafodd anaf i'w chefn oedd yn golygu nad oedd yn medru parhau yn y gystadleuaeth.

Mae hi'n dilyn ôl troed ei diweddar dad, Terry Perdue, a fu'n cynrychioli Prydain mewn codi pwysau ddwywaith - Mecsico yn 1968 a Munich yn 1972.

PÊL-DROED:

Roedd 'na ddwy gêm bêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Mercher. Fe gurodd dynion Mecsico Y Swistir 1-0 yn Grŵp B ac fe gurodd dynion Prydain Uruguay 1-0 yn Grŵp A.

Dechreuodd tri Chymro, Craig Bellamy, Neil Taylor, Joe Allen ac Aaron Ramsey, y gêm a dechreuodd y capten Ryan Giggs y gêm ar y fainc.

Fe ddaeth unig gôl yr ornest i Daniel Sturridge wedi 44 munud o'r gêm yn dilyn gwaith da gan Joe Allen.

Bydd tîm pêl-droed Prydain yn awr yn herio De Korea yn y rownd gogynderfynol yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

RHWYFO:

Roedd achos dathlu i un Cymro wrth i Brydain ennill ei medal aur gyntaf yn y Gemau. Helen Glover a Heather Stanning enillodd y fedal aur yn y gystadleuaeth parau i ferched, ond mae eu hyfforddwr, Robin Williams, yn hanu o Gas-gwent. Aeth i Ysgol Trefynwy cyn mynd ymlaen i rwyfo dros Gymru a bod yn hyfforddwr tîm rhwyfo Prifysgol Caergrawnt.

Mae Helen Glover hefyd yn gyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan raddio yno mewn Gwyddorau Chwaraeon yn 2007, ac mae'r brifysgol wedi ei llongyfarch ar ei llwyddiant.

Hefyd gan y BBC