Trafodaethau i geisio osgoi streic ar bontydd Hafren

  • Cyhoeddwyd
Ail Groesfan Hafren [Llun: Terry Winter]Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.

Ddydd Gwener mae trafodaethau'n parhau mewn ymdrech i osgoi streic allai effeithio ar ddwy bont Hafren.

Pleidleisiodd tua 70 o staff o blaid gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd ffrae am newid shifftiau.

Dywedodd yr undeb Unite fod trafodaethau â Chroesfannau Afon Hafren wedi bod yn adeiladol ers i'r cwmni dynnu llythyr yn ôl.

Mae'r cwmni wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.

'Camau disgyblu'

Dywedodd swyddog rhanbarthol yr undeb, Jeff Woods: "Cynigiodd y cwmni newidiadau i shifftiau ond doedd dim cydbwysedd rhwng gwaith ac ansawdd bywyd y tu allan i'r gwaith.

"Penderfynodd y cwmni roi'r gorau i'r trafodaethau ac ysgrifennon nhw lythyr ddywedodd y bydden nhw'n cymryd camau disgyblu os nad oedd staff yn derbyn y shifftiau newydd."

Erbyn hyn mae'r cwmni wedi tynnu'r llythyr yn ôl ac mae'r undeb wedi cytuno i oedi cyn gweithredu'n ddiwydiannol wrth i drafodaethau gael eu cynnal.

"Y peth diwethaf mae'r undeb am ei wneud yw achosi problemau i yrwyr sy'n defnyddio'r pontydd," meddai Mr Woods.

'Adeiladol'

Dywedodd rheolwr cyffredinol y cwmni, Jim Clune; "Mae ein trafodaethau'n parhau ac fe fyddwn ni'n cael cyfarfod arall ddydd Gwener.

"Rydym yn cynnal trafodaethau adeiladol i ddod â'r anghydfod i ben."

Roedd rhaid i'r cwmni gadw'r ddwy bont ar agor, meddai, ond nid oedd yn fodlon manylu ar sut y byddai'r cwmni'n gwneud hynny.

"Dydyn ni erioed wedi wynebu sefyllfa o'r fath ac rydym yn hyderus na fydd hynny'n digwydd," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol