Newidiadau i ASau Cymru dan amheuaeth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na amheuon am gynlluniau i newid trefn etholaethau Seneddol yng Nghymru wedi i Lywodraeth y DU fethu â chytuno ar gynlluniau i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi.
Daw hyn wedi i'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg gyhuddo'r Ceidwadwyr o dorri cytundeb y glymblaid wedi i dros 90 o Aelodau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn newidiadau i'r Arglwyddi.
Mae Mr Clegg wedi cadarnhau y bydd ei blaid yn gwrthwynebu cynlluniau'r Ceidwadwyr i newid ffiniau etholaethau Seneddol.
Yn ôl Llafur Cymru, mae'r ffrae rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yn "anrhefn lwyr".
Byddai'r cynigion wedi effeithio'n fawr ar Aelodau Seneddol pob plaid yng Nghymru.
Roedd unrhyw newidiadau i fod yn rhan o'r cytundeb ar gyfer ad-drefnu Tŷ'r Arglwyddi a byddai wedi arwain at ostwng nifer yr Aelodau Seneddol o 650 i 600, ac ail-ddiffinio'r etholaethau Seneddol.
Haneru
Gallai'r cynlluniau fod wedi golygu colli dros hanner yr Aelodau Senedddol Cymreig.
Roedd rhai mewn perygl o golli eu hetholaethau'n llwyr, gan olygu y bydden nhw'n gorfod cystadlu gyda chyd aelodau etholaethau cyfagos.
Byddai eraill yn gweld newidiadau i ffiniau eu hetholaeth allai newid patrwm gwleidyddol yr etholwyr yn sylweddol.
Bwriad y llywodraeth oedd sicrhau fod o leia' dri chwarter o aelodau Tŷ'r Arglwyddi wedi eu hethol, a haneru nifer yr aelodau i 450.
Ond dywedodd Mr Clegg ddydd Llun fod y cynlluniau'n cael eu rhoi i'r neilltu wedi i'r Ceidwadwyr "dorri cytundeb y glymblaid".
Wrth i'r newyddion ddod i law am yr anghydfod, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn "gwbl bosib" y byddai Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i'r cynlluniau i ostwng nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig.
'Anrhefn lwyr'
O ganlyniad bydd Carwyn Jones yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn gofyn iddi "ble mae hyn nawr yn gadael y Papur Gwyrdd" oedd yn manylu ar newidiadau i ffiniau gwleidyddol yng Nghymru.
Yn ôl llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, roedd y cynigion yn "ymgais sinigaidd gan y Torïaid i chwarae â chanlyniadau'r etholiad nesa'".
"Mae'n anhygoel fod y glymblaid yn trin materion cyfansoddiadol mor bwysig heb unrhyw egwyddorion o gwbl.
"Mae'n anrhefn lwyr ac mae'r rhyfel cyhoeddus rhwng y ddwy blaid yn mynd yn groes i fuddiannau'r genedl.
"Rwy'n gobeithio y bydd Cheryl Gillan - sydd wedi trin materion cyfansoddiadol gyda'r un diffyg parch - hefyd yn rhoi'r gorau i'w hymgais warthus i rigio'r map etholaethol yng Nghymru ac fe fydda' i, ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, yn ysgrifennu ati i fynnu ei bod yn gwneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011