Chwilio am enw i ganolfan newydd y celfyddydau ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Prosiect Pontio Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun o'r hyn fydd ym Mangor wedi'r gwaith adeiladu

Gyda gwaith adeiladu i fod i ddechrau'n fuan ar ganolfan gelfyddydau ac arloesi newydd ym Mangor, mae project Pontio Prifysgol Bangor wedi lansio cystadleuaeth i gael enw i'r safle.

Mae disgwyl i'r ganolfan ar Ffordd Deiniol agor yn 2014.

Bydd yr adnoddau'n cynnwys awditoriwm yn cynnwys dros 450 o seddau, theatr stiwdio, sinema, canolfan arloesi, ystafelloedd darlithio, bariau a chaffi.

Caiff yr enw newydd a'r enillydd ei gyhoeddi ar Ddydd Gŵyl Ddewi 2013, gyda thocyn i weithgareddau'r tymor cyntaf yn y ganolfan newydd yn wobr.

"Fe wnaethom benderfynu mai hwn oedd yr amser perffaith i ddechrau meddwl am enw i'r adeilad ei hun," meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio.

"Mae Pontio wedi cael ei ystyried o'r dechrau yn enw'r project ei hun - sef y cyfnod pontio rhwng cau Theatr Gwynedd ac agor y ganolfan newydd.

"Felly rydym yn gofyn i bawb ddod â'u hawgrymiadau am enwau i ni.

"Rydym yn chwilio am enw bachog - un sy'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg - mae'n gryn her ac yn un yr hoffem eich help gydag o."

Fe fydd prosiect Pontio yn derbyn cynigion drwy'r post neu e-bost ac fe gaiff awgrymiadau eu cynnig o gymuned leol Bangor ac ymhellach i ffwrdd.

Dylid anfon syniadau am enw drwy e-bost at info@pontio.co.uk neu drwy'r post at Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG erbyn Rhagfyr 21 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol