Gostyngiad yn nifer y di-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru.
Mae ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos bod 126,000 heb waith rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni.
Mae hyn yn ostyngiad o 7,000, ers y ffigurau diwethaf gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau fis yn ôl.
Ond mae nifer y di-waith wedi cynyddu o 2,000 ers yr un cyfnod y llynedd.
Erbyn hyn, canran y di-waith yng Nghymru yw 8.6% tra bod 8.0% yng ngweddill Prydain ar gyfartaledd.
Ar draws Prydain mae nifer y di-waith wedi gostwng o 46,000 i 2.56 miliwn.
Roedd nifer y bobl yn hawlio lwfans ceisio gwaith yn y DU ym mis Gorffennaf wedi gostwng o 5,900 i 1.59 miliwn.
Croesawodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y newyddion am y ffigyrau diweithdra diweddaraf.
"Mae'r cynnydd o ran y bobl sydd mewn gwaith yw'r uchaf yn y DU heblaw am Lundain, y Gogledd Orllewin a'r De Orllewin," meddai.
"Mae 'na arwyddion calonogol fod diweithdra ymysg pobl ifanc yn sefydlogi ac fe fydd yn rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio i wella cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn ystod y misoedd nesaf.
"Mae penderfyniadau diweddar Llywodraeth y DU i wella isadeiledd gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffordd a'r cynllun band-eang yn dangos bod Cymru'n agored i fusnes ac yn lle gwych i fuddsoddi."
Yn y cyfamser dywedodd pennaeth prif sefydliad cynhyrchu Cymru gallai diweithdra godi eto.
Yn ôl Gareth Jenkins o EEF Cymru, sy'n helpu'r sector cynhyrchu, fydd diweithdra'n cynyddu os na fydd y sefyllfa economaidd yn gwella yn ystod y chwe mis nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012