Henoed: Galw am weithredu ar frys
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn herio Llywodraeth Cymru i wneud mwy i wella bywydau pobl hŷn.
Cafodd yr adroddiad - 'Cymru - Lle Da i Dyfu'n Hen?' - ei gyhoeddi gan Gynghrair Henoed Cymru yn Stadiwm Swalec am 10:00am fore Mercher.
Mae'n cynnwys sylwadau am fywydau pobl hŷn yng Nghymru sy'n dangos bod :-
Mwy na 100,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi;
Mae dros dri chwarter menywod a thraean o ddynion sydd dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain;
Mae 4 o bob 10 o'r henoed yn dweud eu bod yn teimlo'n unig weithiau neu yn aml;
Mae 4 o bob 10 o'r henoed yng Nghymru yn dweud mai dim ond cymedrol neu wael yw eu hiechyd.
Herio
Bwriad Cynghrair Henoed Cymru yw herio Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac asiantaethau eraill i weithredu er mwyn gwella bywydau'r 500,000 o bobl hŷn yng Nghymru.
Dywedodd cadeirydd dros dro Cynghrair Henoed Cymru, Angela Roberts:
"Mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn wynebu bywyd o dlodi, gyda diffyg gofal cymdeithasol a phrinder rhyngweithiad cymdeithasol.
"Mae Cynghrair Henoed Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru ac eraill i weithredu ar frys i wireddu eu haddewidion am gydraddoldeb a thegwch cymdeithasol i bobl hŷn.
"Gyda'r nifer o bobl hŷn yn debyg o gynyddu'n ddramatig dros y blynyddoedd nesaf, does dim lle i laesu dwylo, a heb weithredu mae'r rhagolygon i bobl hŷn yn edrych yn ddu iawn.
"Nid dim ond i'r genhedlaeth bresennol o bobl hŷn y mae hyn yn bwysig, ond i'r rhai sydd nawr yn eu pedwardegau neu bumdegau."
'Diffyg parch'
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan Sefydliad Bevan ar ran Cynghrair Henoed Cymru, a dywedodd yr awdur, Victoria Winckler:
"Mae'r darlun a roddir yn 'Cymru: Lle Da i Dyfu'n Hen?' yn un pryderus, gyda llawer gormod o bobl hŷn gydag incwm mor isel fel ei bod yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
"Dyw gormod ddim yn cael y gofal iechyd na chymdeithasol y maen nhw ei angen, ac mae llawer yn cael eu trin gyda diffyg parch ac urddas, ac yn waeth, yn cael eu cam-drin mewn rhai achosion.
"Gall bod yn rhan o weithgarwch addysgol, diwylliannol a hamdden helpu pobl hŷn i gadw'n heini, bod yn rhan o gymdeithas a chadw fyny gyda newidiadau technolegol, ond eto mae'r cyfleoedd i bobl hŷn i ddysgu yn cael eu cwtogi'n ddramatig."
Roedd Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, Sarah Rochira, a'r Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, yn bresennol pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi fore Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2012