Achos Siddiqi: Ymosodiad ar gymydog

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae dyn oedd yn byw ger llanc gafodd ei drywanu i farwolaeth wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe fod rhai wedi ymosod arno yn ei gartre'.

Dywedodd Mohammed Tanhai fod pwysau wedi bod arno oherwydd dyled o £50,000.

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddio'r llanc 17 oed, Aamir Siddiqi, a cheisio llofruddio ei rieni.

Yn 2009, meddai Mr Tanhai, roedd yn berchen ar ddau dŷ yng Nghaerdydd a phenderfynodd symud i un yn Heol Shirley yn ardal Y Rhath a cheisio gwerthu'r llall am £280,000.

Ar y pryd, doedd ei sefyllfa ariannol "ddim yn addawol" oherwydd dyledion morgais.

Clywodd y llys fod ei fab, Daniel, fu farw'n ddiweddarach mewn damwain car, wedi ei gyflwyno i ddyn oedd am brynu'r tŷ.

Bygwth

Oherwydd oedi wrth daro'r fargen penderfynodd Mr Tanhai nad oedd am werthu'r tŷ.

Wedyn daeth y prynwr a dau ddyn arall i'w gartre' a'i fygwth.

Ym mis Tachwedd 2009 galwodd y prynwr a'i bwnio o flaen ei wraig a'i blant.

"Roedd dyn arall yno ac fe ges i'n chwistrellu yn fy wyneb," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw beth... roedd 'yn llyged i'n llosgi ..."

Aed ag e i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas cyn iddo ryddhau ei hun.

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yn 2010.

Mae'r achos yn parhau.