Achos Siddiqi: 'Profiad gwaethaf'

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

"Fy mhrofiad gwaethaf mewn 17 mlynedd o blismona" oedd disgrifiad ditectif o'r hyn a welodd mewn cartref bachgen 17 oed oedd wedi ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd.

Honnir bod dau ddyn wedi ymosod ar Aamir Siddiqi mewn camgymeriad oherwydd 'blerwch anhygoel'.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Stuart Wales wrth Llys y Goron Abertawe fod yna lefan a sgrechian wrth iddo gyrraedd y tŷ yn ardal y Rhath.

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddio Aamir Siddiqi, a cheisio llofruddio ei rieni yn Ebrill 2010.

"Mae gennyf 17 mlynedd o brofiad gyda'r heddlu ond heb os hwn yw'r digwyddiad gwaethaf rwyf wedi delio ag e," meddai'r ditectif sarjant.

"Mae gennyf fachgen o oedran tebyg."

Yn gynharach yn yr achos clywodd y rheithgor fod rhieni Aamir wedi eu hanafu wrth iddynt geisio atal yr ymosodiad.

Honnai'r erlyniad fod Jason Richards a Ben Hope yn llofruddwyr proffesiynol ond eu bod wedi mynd i'r tŷ anghywir.

Cafodd y ditectif ei groesholi gan John Charles Rees QC ar ran amddiffyniad Mr Richards.

Cafwyd cadarnhad nad oedd yr awdurdodau yn gallu dod o hyd i lyfr cofnodion 'safle trosedd' oedd yn nodi pwy oedd wedi dod mewn ac allan o'r tŷ ar ôl y digwyddiad.

"Byddwch yn disgwyl i'r llyfr fod wedi ei gadw," holodd Mr Rees.

Cytunodd y ditectif Wales.

Yn gynharach clywodd y rheithgor honiadau fod llofruddwyr Aamir wedi ymosod ar y llanc yn gwbl afreolus.

Honiad yr erlyniad yw bod y ddiffynyddion wedi cael eu talu gan ŵr busnes i ymosod ar ddyn arall oedd yn byw gerllaw - a bod hynny oherwydd ffrae ynglŷn â gwerthu tŷ.

Mae'r achos yn parhau.