Arwyddo cytundeb newydd am sgiliau ynni ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Atomfa'r Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r cytundeb ar ddiwrnod cau ceisiadau i brynu cynllun Horizon ar gyfer Yr Wylfa

Mae cytundeb yn cael ei arwyddo rhwng Rhaglen Ynys Ynni ar Ynys Môn a nifer o gyrff o dan y teitl "Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Ynni yng Ngogledd Cymru".

Fe ddaw'r memorandwm dealltwriaeth ar ddiwrnod cau cynigion ar gyfer prynu consortiwm Horizon oedd wedi bwriadu codi ail atomfa ar safle'r Wylfa, Ynys Môn.

Yn gynharach eleni roedd 'na bryder am ddyfodol y cynllun ar ôl i Horizon roi gorau i'w cynlluniau.

Mae 'na ddyfalu bod tri chwmni â diddordeb yn Horizon, Areva o Ffrainc, Westinghouse o'r Unol Daleithiau a GE Hitachi, partneriaeth o Japan a'r Unol Daleithiau.

Ac mae'n bosib' y bydd penderfyniad terfynol o fewn wythnosau.

'Pobl leol'

Yn ôl Rhaglen Ynys Ynni, bydd y cytundeb yn fodd iddyn nhw gynllunio ar gyfer y sgiliau newydd sydd eu hangen i gefnogi buddsoddi yn y sector ynni.

Disgrifiad o’r llun,

Dr John Idris Jones yw cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn

Dywedodd y cyfarwyddwr, Dr John Idris Jones: "Mae'r cytundeb hwn yn garreg filltir yn y broses o ddatblygu ein cynlluniau er mwyn sicrhau fod pobl leol yn barod i sicrhau swyddi da mewn sector cyffrous sy'n tyfu.

"Mae cefnogaeth y Cynghorau Sector Sgiliau ynghyd â chefnogaeth ardderchog Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Coleg Menai a'n partneriaid eraill, yn golygu bod yr holl flociau adeiladu bellach yn eu lle i'n galluogi i symud ymlaen."

Tair blynedd

Un o'r rhai sy'n rhan o'r cytundeb yw'r Academi Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Niwclear sydd â rhan fawr yn y gwaith o ddatblygu hyfforddiant a sgiliau ar gyfer gweithredu gorsafoedd niwclear newydd yn y DU, gan gynnwys Wylfa.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jeff Cuthbert: "Mae'n bleser bob amser gweld y partneriaethau hyn yn cael eu sefydlu er budd pobl a busnesau yng Nghymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posib o Raglen Ynys Ynni Môn. Mae datblygu sgiliau wrth wraidd hyn oll."

Bydd y cytundeb yn para hyd at 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol