Cyngor Ynys Môn: 'Cyfle newydd i addysg'
- Cyhoeddwyd
Mae ymateb i adroddiad beirniadol o wasanaeth addysg Cyngor Ynys Môn yn "gyfle newydd i addysg," meddai Deiliad Addysg yr awdurdod, y Cynghorydd Goronwy Parry.
Roedd cyfarfod arbennig yn Llangefni yn ystyried adroddiad wedi ei baratoi gan y cyfarwyddwr addysg, y Dr Gwyn Jones.
Mae'r adroddiad yn ymgais, meddai, i fynd i'r afael â gwendidau y cyfeiriodd yr arolygwyr addysg, Estyn, atyn nhw.
Roedd Estyn wedi dweud bod perfformiad gwasanaethau addysg y sir yn "annerbyniol" a bod y rhagolygon am wella yn "annerbyniol".
Dywedodd adroddiad y cyfarwyddwr addysg: ".. os nad ydi'r awdurdod yn ymateb yn briodol, yna fydd Llywodraeth Cymru ddim yn llacio gafael."
Gwella
Pwysleisiodd Dr Jones fod 'na arwyddion fod y sefyllfa yn dechrau gwella a bod "perfformiad yr awdurdod wedi gwella yn 2012 ers llynedd".
Ond mae ei adroddiad wedi dweud bod angen i'r awdurdod ystyried a yw ei ymrwymiad yn ddigonol, a oes ymdeimlad o frys i fynd i'r afael â'r gwaith, sut mae modd monitro perfformiad - a hefyd a oes strategaeth tymor hir mewn lle.
Un o broblemau mawr addysg y sir, meddai'r cyfarwyddwr addysg, oedd bod gormod o leoedd gwag yn yr ysgolion a bod angen "dewrder gwleidyddol" gan yr aelodau etholedig i weithredu.
Nid cau ysgolion oedd yr ateb bob tro, meddai, gan fod 'na le, er enghraifft, i rannu adnoddau ac arbenigedd staff rhwng ysgolion.
Corfforaethol
Ond problem gorfforaethol oedd wrth wraidd y problemau, meddai, ac roedd rhaid mynd i'r afael â hynny ar fyrder.
Tra'n croesawu a chydnabod pwysigrwydd yr adroddiad, gofynnodd y dirpwy arweinydd, y Cynghorydd Bob Parry, o ble y byddai'r arian yn dod er mwyn gwella'r sefyllfa.
Wedi i Estyn feirniadau'r cyngor yn mis Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ei yn penodi bwrdd adfer i arolygu addysg yn y sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012