Dechrau rhyddhau dyletswyddau Comisiynwyr Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi ei fod am ddechrau rhyddhau'r Comisiynwyr a benodwyd i redeg Cyngor Sir Ynys Môn o'u dyletswyddau.
Daw ei gyhoeddiad ddydd Mawrth ar ôl i adroddiadau gan y Comisiynwyr ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ddweud bod y cyngor "wedi'i weddnewid ei hun yn llwyr" ers mis Mawrth 2011.
Dywedodd y Comisiynwyr fod y sefyllfa wleidyddol gynhennus sydd wedi bod yn dreth ar y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dod i ben i raddau helaeth o dan eu goruchwyliaeth, a bod y Cynghorwyr bellach yn ystyried materion mewn modd mwy cytbwys.
"Rwy'n falch iawn fod fy Nghomisiynwyr a'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn fod y Cynghorwyr, o bosib, yn barod i ailddechrau rheoli, a'u bod yn hyderus y bydd y sefyllfa'n parhau i wella mewn modd cynaliadwy," meddai Carl Sargeant.
'Grym o hyd'
"Erbyn hyn mae gan y Cyngor uwch-dîm rheoli o safon uchel ac mae'n nesáu at gyrraedd sefyllfa lle bydd yn gallu rheoli ei faterion ei hun heb gyfarwyddyd o'r tu allan.
"Er mwyn dechrau dod â'm cyfnod o ymyrraeth i ben, byddaf yn rhoi pwerau sydd yn nwylo'r Comisiynwyr yn ôl i'r Cyngor, a hynny o ddechrau'r mis nesaf.
"Bydd gan y Comisiynwyr rym o hyd i wrthdroi unrhyw benderfyniad gan y Cyngor sy'n groes i gyngor y swyddogion statudol.
"Fe fyddan nhw'n parhau i gadw golwg ar hynt y gwaith.
"Bydd y Comisiynwyr yn rhoi gwybod i mi os byddan nhw'n teimlo bod y broses adfer yn cloffi.
"Ac os bydd y Cyngor yn dychwelyd i'w hen ffyrdd, byddaf yn gweithredu'n ddi-oed."
Gan fod llai o gyfrifoldebau arnyn nhw, bydd llai o Gomisiynwyr yn y tîm.
Mis Mai
Caiff Alex Aldridge, Byron Davies a Mick Giannasi eu hailbenodi'n rhan-amser, a bydd Margaret Foster a Gareth Jones yn gadael y Cyngor wrth i'r cam hwn yn y broses ymyrryd ddod i ben yn llwyddiannus.
Ychwanegodd y Gweinidog: "Hoffwn ddiolch o galon i Margaret a Gareth wrth iddyn nhw ymadael.
"Heb eu hymdrechion nhw a'r holl Gomisiynwyr, fydden ni ddim wedi cyrraedd y cam hwn mor gyflym, os o gwbl.
"Bydd y trefniadau newydd mewn grym tan ddiwedd mis Mai nesaf.
"Os gwelir bod y Cynghorwyr yn cadw pethau dan reolaeth yn ystod y cyfnod hwnnw, ac os bydd etholiadau'r flwyddyn nesaf yn esgor ar weinyddiaeth gytbwys yn y Cyngor, byddaf yn dirwyn fy ymyrraeth i ben.
"Byddai hynny'n nodi diwedd taith hir a digon cythryblus.
"Mae cyfle gan y Cyngor yn awr i ailafael yn llawn yn yr awenau, ac mae mewn sefyllfa lawer gwell i allu diwallu anghenion a dyheadau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012
- Cyhoeddwyd14 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012