Cynnau llusernau er cof am April Jones

  • Cyhoeddwyd

Ar gais teulu April Jones cafodd cannoedd o lusernau eu cynnau a balŵns pinc eu gollwng i'r awyr nos Lun er cof am y ferch ddiflannodd wythnos yn ôl.

Digwyddodd hyn rhwng 7pm a 7.30pm - yr union amser y diflanodd nos Lun diwetha' o du allan i'w chartref ym Machynlleth.

Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu yn y dref i ymuno yn y cofio.

Cafodd llusernau a chanhwyllau eu cynnau hefyd mewn trefi fel Aberystwyth a Thywyn.

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Marc Lewis: "Heno roedd pawb yn cofio beth sy' wedi digwydd yn ystod yr wythnos yma ym Machynlleth.

"Dyna ddymuniad y teulu sy'n diolch i bawb am eu cymorth.

"Mae'r heddlu wedi bod allan ymhob tywydd."

Am 7pm hefyd cafodd tŵr Blackpool ei oleuo'n binc.

Holi gyrwyr

Disgrifiad o’r llun,

Nos Lun ym Machynlleth cafodd llusernau eu cynnau

Yn y cyfamser, roedd yr heddlu nos Lun yn stopio gyrwyr ar yr A487 ger Pont Ddyfi ac ar yr A489 oherwydd Adran 4 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.

Cafodd lluniau o'r diffynnydd a'i gerbyd Rover Discovery eu dangos i yrwyr.

Fore Llun roedd Mark Bridger, 46 oed, o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ar gyhuddiad o lofruddio April Jones.

Hefyd mae wedi ei gyhuddo o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Mae arbenigwyr yr heddlu yn parhau i chwilio am April.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol