Is-reolwr Cymru ddim yn poeni am ddiffyg goliau

  • Cyhoeddwyd
John HartsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

John Hartson yn peoni mwy am gyfleoedd i ymosodwyr Cymru na diffyg goliau

Mae is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, John Hartson, yn dweud nad yw prinder goliau'r tîm cenedlaethol yn destun pryder iddo.

Bydd Cymru'n croesawu'r Alban i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd gan wybod eu bod wedi sgorio unwaith mewn pum gêm.

Cic rydd Gareth Bale yn erbyn Serbia oedd honno, a dyw Cymru heb sgorio o chwarae agored ers mis Tachwedd 2011.

Ond mae Hartson yn hyderus y daw'r goliau.

"Nid yw'n bryder mawr i ni ar y funud, ond ry'n ni'n ymwybodol o'r peth," meddai cyn-ymosodwr Cymru.

"Ry'n ni'n gwbod beth sydd angen i ennill gemau pêl-droed.

"Fe fydden i'n poeni mwy tasen ni ddim yn creu cyfleoedd, ond gobeithio y gallwn ni greu digon nos Wener a sgorio ychydig o goliau."

'Ildio yw'r broblem'

Mae Hartson, sydd bellach yn aelod swyddogol o'r tîm hyfforddi, yn fwy pryderus am y ffaith nad yw ymosodwyr Cymru yn chwarae'n rheolaidd i'w clybiau.

"Mae'n bryder bach nad ydyn nhw'n chwarae bob wythnos," meddai.

"Dyw Sam Vokes ddim yn nhîm Burnley, Simon Church i mewn ac allan o dîm Reading a dyw Steve Morison ddim yn chwarae'n gyson i Norwich.

"Ry'n ni wedi dod â Craig Davies i mewn o Barnsley, ac mae e wedi bod yn sgorio'n rheolaidd, ac mae angen cystadleuaeth o fewn y garfan.

"Pan mae'r tîm yn chwarae'n dda fe ddaw'r goliau. Rwy'n credu ei bod hi'n fwy o broblem ar y funud ein bod yn gadael y goliau i mewn y pen arall."

Collodd Cymru eu dwy gêm agoriadol yn Grŵp A - , dolen allanol yng Nghaerdydd cyn cael chwalfa o 6-1 yn Serbia dridiau yn ddiweddarach.

Cafodd Yr Alban ddwy gêm gyfartal yn erbyn Serbia a Macedonia.

Ychwanegodd Hartson: "Ry'n ni'n gwybod fod rhaid gwella ar y perfformiad yn erbyn Serbia - doedd hynny ddim yn ddigon da."

Carfan Cymru v Yr Alban (Nos Wener; Stadiwm Dinas Caerdydd) a v Croatia (Nos Fawrth, Hydref 16; Osijek)

Jason Brown (Aberdeen), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Darcy Blake (Crystal Palace), Ben Davies (Abertawe), Jazz Richards (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Lewn Nyatanga (Bristol City), James Wilson (Bristol City), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe, capten), Joe Allen (Lerpwl), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Simon Church (Reading), Steve Morison, (Norwich), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol