4,000 i golli eu cartrefi?

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Amcangyfrif Ffederasiwn Tenantiaid Cymru yw y gallai 4,000 o bobl fod yn ddigartref o ganlyniad i'r newid

Mae'r corff sy'n cynrychioli tenantiaid yng Nghymru yn rhybuddio y gall hyd at 4,000 o bobl gael eu gwneud yn ddigartref o ganlyniad i newidiadau mewn budd-dal tai fydd yn cael eu cyflwyno fis Ebrill nesaf.

Bydd tenantiaid mewn cartrefi cymdeithasol sydd o fewn oed gweithio ac yn derbyn budd-dal tai yn gweld cwtogiad yn y taliadau os nad ydyn nhw'n llenwi'r eiddo y maent yn byw ynddo.

Fe fydd y "dreth ystafell wely", fel y mae'n cael ei adnabod, yn golygu y bydd tenantiaid yn colli 14% o'u budd-dal tai os oes ganddynt un ystafell wely wag, neu 25% os oes dwy ystafell wag.

Mae asesiad llywodraeth y DU eu hunain yn amcangyfrif y bydd y newid yn effeithio ar 40,000 o aelwydydd yng Nghymru - y canran uchaf o unrhyw ran o'r DU.

Dyled

Dywedodd Prif Weithredwr Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, Steve Clarke, wrth BBC Cymru bod nifer eisoes yn teimlo'r esgid yn gwasgu oherwydd costau byw cynyddol, ac fe allai nifer golli eu cartrefi.

"Ein hamcangyfrif ni yw bod 10% o'r tenantiaid yma eisoes mewn dyled i'w landlordiaid oherwydd maen nhw'n ceisio am orchmynion adfeddiannu, felly mae'n debyg y gallai 4,000 o bobl gael eu gwneud yn ddigartref o ganlyniad."

Dywedodd Enid Roberts o fudiad Cartrefi Cymunedol Gwynedd ei bod yn bryderus am allu rhai tenantiaid i dalu rhent, a'i bod yn poeni y byddai'n rhaid troi rhai allan o'u cartrefi.

"Rydym yn y busnes o ddarparu tai ar gyfer tenantiaid," meddai.

"Rydym am iddyn nhw fedru cynnal y cartrefi yna, ond os ydyn nhw'n mynd i ddyled, a'r ddyled yn cyrraedd rhyw lefel yna rydym yn troi pobl allan oherwydd arian rhent sy'n talu am y gwaith yr ydym yn ei wneud ar gartrefi, a fedrwn ni ddim goroesi heb yr arian."

Ychwanegodd y byddai CCG yn cael trafferth symud pobl i dai llai gan nad oedd digon ar gael, ac y byddai hynny'n golygu fod pobl wedi eu cloi mewn cartrefi nad ydyn nhw'n medru fforddio a ddim yn medru symud allan chwaith.

Rhestrau aros

Nod y newid gan lywodraeth y DU yw cwtogi'r bil blynyddol o £21 biliwn ar fudd-dal tai, a hefyd i ryddhau cartrefi ar gyfer teuluoedd sydd ar restr aros am gartref.

Yng Nghymru mae 91,000 o deuluoedd ar restr o'r fath.

Pan godwyd y mater yn Nhŷ'r Cyffredin yw wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

"Mae £21bn yn cael ei wario ar fudd-dal tai, ac fe fydd y ffigwr yna'n cynyddu heb y diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno.

"Beth sydd yn deg am bron 100,000 o deuluoedd yng Nghymru ar restr aros pan mae pobl eraill yn byw mewn tai sydd ag ystafelloedd gwag?"

Gofynnodd BBC Cymru i'r Adran Gwaith a Phensiynau am gyfweliad, ond gwrthodwyd y cais. Dywedodd yr adran mewn datganiad:

"O Ebrill 2013 bydd cymhwysedd tenantiaid yn y sector rhentu cymdeithasol yn adlewyrchu maint y teulu.

"Rydym yn disgwyl y bydd tenantiaid yn gwneud cyfraniad tuag at y rhent os ydyn nhw'n byw mewn eiddo sy'n fwy na'u hanghenion yn yr un modd ag y mae tenantiaid yn y sector preifat yn gwneud ar hyn o bryd."

Adroddiad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym yn bryderus iawn am yr effaith allai'r "dreth ystafell wely" ei gael ar denantiaid yng Nghymru.

"Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl adroddiad ar oblygiadau'r dreth a gomisiynwyd gan Ffederasiwn Tenantiaid Cymru gyda'n cefnogaeth.

"Bydd yr adroddiad yn nodi'r hyn y mae sefydliadau lleol yn ei wneud i gynorthwyo tenantiaid er mwyn lliniaru effeithiau'r newidiadau i fudd-dal tai yng Nghymru, a hefyd yn dangos pa weithredu fydd angen i gynorthwyo tenantiaid gydag effeithiau sylweddol newidiadau llywodraeth y DU i fudd-dal tai."