Argyfwng yn achosi i fwy o deuluoedd rentu
- Cyhoeddwyd
Bydd un ymhob pedwar teulu yng Nghymru'n rhentu rhywle i fyw erbyn 2025, yn ôl y darogan.
Dywed yr ymgynghorydd eiddo annibynnol, Tamsin Stirling, fod cannoedd o filoedd o deuluoedd ifanc, sydd ddim yn gallu fforddio prynu tŷ, yn wynebu dyfodol ansicr.
Bu'n edrych yn fanylach ar y sefyllfa ar gyfer rhaglen BBC Cymru Week In Week Out.
Mae ffigurau'n awgrymu fod canran y bobl sy'n rhentu wedi dyblu dros y blynyddoedd diwetha' - o 7% i 14%.
"Mae 'na nifer o bethau'n awgrymu y gallwn ni weld cyfartaledd o 20% yn rhentu eu cartrefi yn y sector preifat erbyn 2020, ac mae hynny'n gyfartaledd ar draws Cymru," meddai.
"Felly ar gyfer ardaloedd gwahanol gallech chi fod yn edrych ar fwy na hynny. Mae'n debyg fod Caerdydd o gwmpas tua 20% yn barod."
Os bydd y patrwm cyfredol yn parhau, bydd tua 25% yn rhentu erbyn canol y ddegawd nesa', gyda 30% yn rhentu yng Nghaerdydd.
Llys
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar bobl yn byw yn Tintern Street, Treganna, yng Nghaerdydd, ble mae 30% yn rhentu erbyn hyn - 20 mlynedd yn ôl byddai'r mwyafrif wedi bod yn berchnogion tai.
Dywedodd teuluoedd ifanc wrth y rhaglen fod bron i hanner eu hincwm yn mynd ar dalu rhent.
Mae disgwyl i Sallie Morse, sy'n byw yn Tintern Street gyda'i dau blentyn, ymddangos yn y llys am beidio â thalu rhent.
"Mae wedi bod yn achos o dalu rhent a dim llawer o fwyd a gyda fy swydd fel gofalwraig rwyf angen arian petrol. Mae gen i achos llys i weld sut alla' i dalu fy nyledion i'r landlord," meddai.
"Mae o wedi gwneud cais i'n troi ni allan, yn ogystal ag am yr arian sy'n ddyledus."
Yn ôl Ms Stirling, mae rhent wedi cynyddu'n arw oherwydd bod mwy o alw am dai rhent.
Deddfwriaeth
"Mae 'na gonsensws cyffredinol bod angen i gostau tai - boed yn forgeisi neu rent - fod yn 25% neu lai er mwyn bod yn fforddiadwy," ychwanegodd.
"Os ydych chi ar incwm cyfartalog yng Nghymru rydych chi'n barod yn gwario mwy na hynny. Ac os ydych chi ar lai na hynny, yna rydych chi'n symud i fyny o draean i'n nes at 40% o'ch incwm blynyddol."
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno deddf newydd y flwyddyn nesa' i geisio taclo'r argyfwng tai - y ddeddf gynta' o'i bath.
Un ateb fyddai i ystyried rhentu fel opsiwn mwy hirdymor.
Yn ôl y Gweinidog Tai, Huw Lewis, dylid edrych ar hawliau tenantiaid mewn deddfwriaeth ar wahân ond mae'n derbyn fod yr argyfwng tai yn gur pen i'r llywodraeth.
"Dwi ddim yn credu fod pobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol all hyn fod," meddai.
"Dim ond cynyddu fydd y pwysau ar bobl dros y blynyddoedd nesa', felly hefyd ar y sector ei hun. Mae cannoedd ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru'n mynd i fod yn canolbwyntio ar gael ateb fforddiadwy ac rydyn ni'n ceisio ymateb i hynny."
Bydd rhaglen Week In Week Out i'w gweld ar BBC One Wales am 10:35pm nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011