Morglawdd: Angen gweithredu

  • Cyhoeddwyd
Artist's impression of one Severn barrage modelFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o un model o forglawdd yr Hafren

Mae cefnogwyr cynllun gwerth £25 biliwn i godi argae ar draws Afon Hafren yn dweud y bydd y cyfle'n cael ei golli os na fydd yn cael ei gymeradwyo o fewn tair blynedd.

Dywed Corlan Hafren - y cwmni sy'n gobeithio adeiladu morglawdd 18 cilomedr rhwng Caerdydd a Weston-Super-Mare - eu bod yn trafod gyda gweinidogion llywodraeth y DU a grwpiau amgylcheddol am eu cynlluniau.

Bydd angen deddf arbennig er mwyn i'r cynlluniau gael eu gwireddu. Mae Corlan Hafren - consortiwm sy'n cynnwys y cwmni a adeiladodd y London Eye, Marks Byfield, a'r peirianwyr sifil Arup - yn gobeithio gallu dechrau ar y gwaith y flwyddyn nesaf.

Ond mae'r cwmni yn poeni y gallai'r cyfle gael ei golli os fydd gormod o oedi.

Cefnogaeth

Mae'r Athro Brian Morgan yn aelod o fwrdd rhanbarthol Corlan Hafren a dywedodd:

"Mae gennym gyfnod lle mae cyfle i wneud hyn gan fod gennym gefnogaeth gan lywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd, ac mae cyfle o safbwynt cael arian o gyfoeth sofran.

"Ond fe fydd llywodraeth y DU yn wynebu etholiad yn 2015, felly fe fyddai'n rhaid cael deddf newydd drwy'r senedd cyn diwedd oes y llywodraeth yma er mwyn bwrw 'mlaen. Wedi hynny fe allai'r cynllun ddiflannu."

Pris

Ymddiswyddodd AS Castell-nedd, Peter Hain, o fainc flaen Llafur yn gynharach eleni er mwyn cefnogi cynlluniau Corlan Hafren, a dywedodd mai'r allwedd i basio deddf newydd a denu buddsoddwyr yw ymrwymiad gan lywodraeth y DU i gytuno ar bris am yr ynni y byddai'r morglawdd yn ei gynhyrchu yn y blynyddoedd cynnar.

"Y mater sy'n rhaid ei ddatrys yw'r cymhorthdal pris y mae pob ffynhonell o ynni adnewyddol yn ei dderbyn yn y blynyddoedd cynnar - gwynt, haul, biomas ac yn y blaen.

"Nid yw Morglawdd Hafren yn wahanol. Mae angen cytundeb gydag elfen o gymhorthdal am y 25 mlynedd cyntaf o'i oes, ac ar ôl hynny fe fydd yr ynni yn rhad iawn, iawn."

Amgylchedd

Yn ogystal â phrofi cynaliadwyedd ariannol y cynllun, mae angen i Corlan Hafren ddwyn perswad ar grwpiau amgylcheddol am fudd adeiladu strwythur mor fawr ar draws aber yr Hafren.

Dywed y cwmni eu bod wedi gwella ar gynllun blaenorol a gafodd ei wrthod yn 2010 trwy ddefnyddio tyrbinau llai sy'n gallu cynhyrchu ynni ar lanw a thrai.

Mae'r newid, medd y cwmni, yn golygu bod y cynllun bellach yn well i'r amgylchedd ond eto'n dal i gynhyrchu 5% o anghenion ynni'r DU.

Ond mae sawl grwp amgylcheddol yn amau hynny.

Dywedodd David Fitzpatrick, prif weithredwr yr elusen amgylcheddol Cynnal Cymru:

"Mae pentwr o bobl allan o waith, ond mae digon o waith angen ei wneud.

"Dewch i ni ystyried mesurau ataliol. Dewch i ni ystyried codi ymwybyddiaeth am insiwleiddio, ac yna galluogi i hynny ddigwydd.

"Yr hyn y dylem ni fod yn ei drafod yw peidio cynhyrchu'r ynni yn y lle cyntaf, nid ceisio adeiladu rhywbeth allai fod yn eliffant gwyn yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol