Angen 'taclo newyddiaduraeth': AS

  • Cyhoeddwyd
David Jones MP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn siarad ar raglen The Wales Report

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod rhaid i'r BBC fynd i'r afael â'i threfniadaeth er mwyn adfer hyder yn safon ei newyddiaduraeth.

Roedd David Jones yn siarad ar raglen The Wales Report yn dilyn ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol George Entwistle.

Gadawodd Mr Entwistle ei swydd nos Sadwrn oherwydd adroddiad ar raglen Newsnight am gam-drin plant yng ngogledd Cymru, ac un arall na gafodd ei ddarlledu am Jimmy Savile.

Dywedodd Mr Jones bod newyddiaduraeth Newsnight wedi cael ei niweidio oherwydd diffyg strwythur.

'Blerwch'

Dywedodd: "Fe ddylai bod proses lle'r oedd y cyfarwyddwr cyffredinol yn cael gwybod os oedd y rhaglen yn bwriadu, ar un adeg, enwi gwleidydd Ceidwadol amlwg - yn amlwg doedd dim trefn o'r fath mewn lle.

"Rwy'n credu bod materion o drefniadaeth o dan lefel y DG (cyfarwyddwr cyffredinol) sydd angen eu datrys.

"Mae blerwch y newyddiaduraeth yn ei gwneud yn fwy angenrheidiol bod y trefniadau yna mewn lle."

Bu Mr Entwistle yn delio gyda goblygiadau adroddiad ar Newsnight ar Dachwedd 2 i gam-drin plant mewn cartrefi yng ngogledd Cymru - adroddiad a arweiniodd at yr Arglwydd McAlpine - gwleidydd amlwg yng nghyfnod Thatcher - yn cael ei gysylltu ar gam gyda'r cam-drin.

Wythnos yn ddiweddarach, fe dynnodd y dioddefwr - Steve Messham - ei honiadau yn ôl gan ddweud ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac fe gyhoeddodd y BBC ymddiheuriad diamod am y darllediad.

Cafodd Mr Entwistle ei feirniadu am beidio gwybod am y rhaglen tan ar ôl iddi gael ei darlledu, am beidio bod yn ymwybodol o erthygl mewn papur newydd a ddatgelodd y cam-enwi ac am beidio gwybod am drydar a ddywedodd bod Newsnight ar fin cyhoeddi'r honiadau.

Roedd yn ei swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol am 54 o ddyddiau.

Cam nesaf

Dywedodd Mr Jones mai adfer hyder oedd y cam nesaf i'r BBC.

"Yr hyn sydd angen yw cael rhywun wrth lyw'r gorfforaeth - sydd wedi'r cyfan yn sefydliad Prydeinig pwysig - sy'n gallu ysbrydoli hyder y staff ond hefyd cynulleidfa'r BBC sydd, mae'n debyg, yn teimlo wedi eu gadael i lawr gan y bennod yma," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig nad yw dioddefwyr yr achos yma yn cael eu hanghofio.

"Rwy'n gwybod bod pryderon wedi bod yng ngogledd Cymru am rai blynyddoedd a oedd ymchwiliad Waterhouse yn ddigon trylwyr. Rwy'n credu bod y broses a gyhoeddwyd dros yr wythnos ddiwethaf yn mynd i ddatrys hynny."

Cafodd dau ymchwiliad eu cyhoeddi gan lywodraeth y DU i honiadau o gam-drin mewn cartrefi plant ar draws gogledd Cymru.

Yn y cyfamser, mae'r penderfyniad i dalu blwyddyn o gyflog i George Entwistle wedi cael ei feirniadu gan nifer o Aelodau Seneddol blaenllaw.