BBC yn ymddiheuro'n ddiamod am adroddiad Newsnight

  • Cyhoeddwyd
Steve MesshamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Messham wedi ymddiheuro'n ddiffuant i'r Arglwydd McAlpine am ei gam-adnabod

Mae'r BBC wedi ymddiheuro'n ddiamod am ddarlledu honiadau ar raglen Newsnight yr wythnos diwethaf fod dyn wedi cael ei gam-drin gan wleidydd mewn swydd uchel yn llywodraeth Margaret Thatcher mewn cartre' plant yn Wrecsam.

Er ni chafodd neb ei enwi ar y rhaglen, roedd honiadau ar y rhyngrwyd yn fuan wedyn mai at un o gyn-drysoryddion y Torïaid, yr Arglwydd McAlpine, yr oedd yr honiadau'n cyfeirio.

Ond mae'r gŵr wnaeth honni iddo gael ei gam-drin gan aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol wedi dweud ei fod wedi gwneud camgymeriad.

Dywed Steve Messham fod hyn yn achos o gam-adnabod.

Llun

Dywedodd ar ôl gweld llun o'r Arglwydd McAlpine, nad ef gafodd ei ddangos iddo mewn llun gan yr heddlu ddechrau'r 1990au.

Mae'n honni i'r heddlu ddweud wrtho mai Arglwydd McAlpine oedd y dyn yn y llun.

Mae Mr Messham wedi ymddiheuro'n ddiffuant ac yn ostyngedig i'r Arglwydd McAlpine a'i deulu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr arglwydd fod yr honiadau'n 'gwbwl ffug'

Fore Sadwrn fe ddaeth hi i'r amlwg nad oedd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC yn ymwybodol o gynnwys y rhaglen tan ar ôl iddi gael ei darlledu.

Yn ôl George Entwistle, roedd cyfreithwyr wedi asesu cynnwys y rhaglen, ac roedd uwch reolwyr perthnasol hefyd wedi bod yng nghlwm wrth y penderfyniad i ddarlledu'r adroddiad.

Am y tro ni fydd adroddiadau ymchwiliadol yn cael eu darlledu ar Newsnight tra bod adolygiad mewnol yn cael ei gynnal.

Honiad

Mewn datganiad, dywedodd y BBC: "Fe wnaethon ni ddarlledu honiad Mr Messham ond heb enwi'r unigolyn yr oedd yn cyfeirio ato.

"Mae Mr Messham heno wedi gwneud datganiad iddo gamgymryd y dyn a wnaeth ei gam-drin ac wedi ymddiheuro.

"Rydym ninnau hefyd yn ymddiheuro'n ddiamod am ddarlledu'r adroddiad."

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y byddai'n amhriodol iddyn nhw wneud sylw ar honiadau Mr Messham ynglŷn â'r camgymeriad gyda'r llun "gan fod ymchwiliad yn parhau".

Fe ddaw'r datganiadau ar ôl i'r Arglwydd McAlpine ddweud fod honiadau sy'n ei gysylltu ag achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru yn "gwbl ffug ac enllibus".

Mae ei gyfreithiwr wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol.

Ymweliad

Gwadodd yr Arglwydd ei fod wedi cam-drin Mr Messham nac unrhyw breswyliwr arall yn y cartre'.

Dywedodd iddo ymweld â Wrecsam "unwaith yn unig" yng nghwmni asiant o Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr.

Gwadodd ei fod wedi bod i gartref plant yn Wrecsam nac unrhyw gartre' tebyg.

Roedd yn ymgynghorydd i Mrs Thatcher pan oedd hi'n Brif Weinidog ac fe sefydlodd gwmni adeiladu McAlpine.

Ar hyn o bryd mae'n byw yn Yr Eidal.

Dywedodd mai ei fwriad oedd "herio'r sarhad ar ei enw da'n gyhoeddus" a "chywiro'r gwall".

Roedd rhai papurau newydd ddydd Gwener wedi dweud bod yr Arglwydd wedi ei gam-adnabod.

Dywedodd yr Arglwydd nad oedd yn cyhuddo Mr Messham o ymddwyn yn faleisus.

"Ond mae o wedi adnabod y person anghywir," meddai cyn yr ymddiheuriad gan Mr Messham.

"Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â Mr Messham a'r bobl ifanc gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oedden nhw yn y cartre' plant yn Wrecsam," meddai.

'Gwarchod'

"Roedd y cam-drin yn ffiaidd iawn.

"Ac roedd ganddyn nhw bob hawl i gael eu gwarchod ac i gael y gofal angenrheidiol ....

"Mae'r rhai oedd yn euog wedi eu cosbi'n haeddiannol a dylai'r rhai sy' ddim wedi eu cosbi wynebu cyhuddiadau cyn gynted â phosib."

Roedd yn barod, meddai, i gwrdd â Phrif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin, a Chyfarwyddwr yr Asiantaeth Droseddau, Keith Bristow, "fel nad wyf yn rhan o'r ymchwiliadau ac er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ddi-sail".

Fe fydd un ymchwiliad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog David Cameron yn edrych ac yn adolygu Ymchwiliad Waterhouse.

Bydd yr ymchwiliad arall yn ymchwilio i'r honiadau newydd am na "allen nhw fynd heb gael eu hateb" yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn ogystal â rôl yr heddlu i'r cwynion ar y pryd.