Pryderon am ofal iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae'r elusen iechyd meddwl Gofal yn galw am welliannau i agweddau meddygon teulu a gweithwyr iechyd i drafferthion iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae astudiaeth o dros 1,000 o bobl a dderbyniodd gymorth gyda'u hiechyd meddwl yn awgrymu bod problemau gydag amseroedd aros ac effeithiolrwydd triniaethau.
Dywedodd bron hanner y bobl a holwyd bod eu triniaeth ond wedi bod yn rhannol effeithiol neu heb fod o gymorth o gwbl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddi gynlluniau i ddatrys y materion a godwyd.
Roedd arolwg o 1,083 o bobl ar draws Cymru yn cynnwys cwestiynau am ymateb meddygon teulu pan oedd pobl yn gofyn am gymorth, pa mor hir y bu'n rhaid aros am driniaeth a pha driniaeth a gafwyd.
Pryderus
Ymhlith y canlyniadau, dywedodd y bobl a holwyd:
Cafodd 62.8% bresgripsiwn am feddyginiaeth, ac fe gafodd 34.8% gyngor a gwybodaeth;
Bu 62% yn disgwyl am fwy na mis i gael asesiad cyflawn gan eu meddyg teulu, a bu'n rhaid i 37% ddisgwyl am fwy na thri mis;
Bu'n rhaid i un o bob pedwar ddisgwyl am fwy na thri mis i gael mynediad at wasanaethau cefnogol eraill;
Dywedodd bron hanner bod y driniaeth ond wedi bod yn rhannol effeithiol neu heb fod o gymorth o gwbl;
Dywedodd 3 o bob 10 nad oedd eu cyflwr wedi gwella o gwbl o ganlyniad i'r driniaeth a gafwyd.
Dywedodd cyfarwyddwr Gofal, Ewan Hilton, bod rhai o'r canlyniadau yn bryderus, ond nad oedd wedi ei synnu oherwydd yr ymateb y mae'n ei dderbyn gan ddefnyddwyr y gwasanaethau.
"Pan mae ymyrraeth yn digwydd o fewn pedair wythnos, rydym yn gweld iechyd meddwl pobl yn gwella," meddai.
"Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r arolwg yn ei ddweud wrthym yw bod angen gwell agwedd meddygon teulu a bod angen gwella amseroedd aros."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai gweithredu a deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau, a'i fod yn gobeithio gweld mwy o welliannau a llai o bryderon y flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi amlinellu strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a fydd yn cael ei chyflawni gan bartneriaethau rhwng byrddau iechyd, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a theuluoedd.
"Fel rhan o'r strategaeth," meddai, "bydd rhaglen lwyddiannus cymorth cyntaf iechyd meddwl yn parhau i gynorthwyo pobl i adnabod yr arwyddion cyntaf o bobl sydd â thrafferthion iechyd meddwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd24 Awst 2012