Alcohol: 45c yr uned er mwyn mynd i'r afael â phroblem goryfed

  • Cyhoeddwyd
Diodydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu y dylid codi o leiaf 45c am bob uned o alcohol

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi cynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau goryfed.

Yr argymhellion yw isafswm o 45c ar bob uned o alcohol sy'n cael ei gwerthu ac atal archfarchnadoedd rhag cynnig bargeinion arbennig.

Mae yna bwysau ar weinidogion i weithredu ar ôl i Lywodraeth yr Alban bennu isafswm o 50c ar bob uned o alcohol.

Wrth gyhoeddi'r argymhellion, dywedodd y Ysgrifennydd Cartref Theresa May mai'r nod fyddai ceisio targedu yfwyr oedd yn debyg o niweidio eu hunain - a siopau anghyfrifol.

'Cam ymlaen'

Dywedodd Alcohol Concern Cymru eu bod yn croesawu'r datganiad.

Ond dywedodd Andrew Misell, llefarydd yr elusen, ei fod yn poeni na fydd isafswm pris yn unig yn ddigon i leihau problemau a goryfed.

"Rydyn ni'n talu'n ddrud am gamddefnyddio alcohol a bydd gosod isafswm pris am bob uned yn gam ymlaen tuag at newid hynny.

"Mae angen i ni reoli trwyddedu'n fwy tynn, gan roi i awdurdodau lleol a heddluoedd y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i'r afael â'r ffyrdd mae alcohol yn cael ei werthu'n lleol."

Mi fydd y broses ymgynghori yn parhau am 10 wythnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol