Camp y Cymry Olympaidd yn y Gemau yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Cyn i Danny Boyle swyno'r byd â'i seremoni, roedd 'na leisiau o Fôn i Fynwy yn cwestiynnu pam nad oedd mwy o gystadlaethau Olympaidd yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Beth am wahodd y beicwyr mynydd i gystadlu ar lwybrau naturiol y canolbarth, a pham na allai'r hwylwyr gystadlu yn nyfroedd Pen Llŷn?
Does dim dwywaith fod nifer yn dal i deimlo i Gymru gael ei dieithrio'n ormodol o'r Gemau. Does dim gwadu serch hynny i'r parti mawr yn nwyrain Llundain greu argraff ryngwladol sydd wedi gosod her i Gemau Olympaidd y dyfodol.
Blwch post
Teg dweud i'r gemau ffrwydro go iawn ar y pedwerydd o Awst pan gipiodd Jessica Ennis, Greg Rutherford a Mo Farah fedal aur yr un o fewn 46 munud.
Ond roedd 'na flwch post eisoes wedi'i baentio'n aur yng Nghymru, a hynny yng nghysgod y castell yng Nghaerdydd, diolch i ymdrechion Geraint Thomas yn y Velodrome.
Dyma oedd yr ail fedal aur i'r Cymro 26 oed yn y ras gwrso, a dwi'n amau os oedd yna gyfnod mwy swnllyd drwy gydol y gemau na'r 3 munud 51.659 eiliad y cymerodd hi i'r pedwar o Brydain dorri record byd unwaith yn rhagor.
Thomas oedd y pedwerydd o Gymru erioed i ennill mwy nag un Medal Aur Olympaidd.
Uchafbwynt
Bedair awr ar hugain yn ddiweddarach, ac roedd 'na Gymro arall ar y rhestr, wrth i Tom James o Wrecsam amddiffyn ei goron ar y dŵr yn Eton Dorney.
Roedd cael tystio i'r fath lwyddiant yn fraint eithriadol, ond roedd yr uchafbwynt personol i mi fel gohebydd eto i ddod.
Fe ddechreuodd ymgyrch Jade Jones yn gynnar iawn ar fore cynnes o haf yn y rownd gyntaf yng Nghanolfan yr Excel.
Bryd hynny, prin oedd y rheini, ac eithrio Jade ei hun, fyddai wedi breuddwydio y byddai merch bedair ar bymtheg oed o'r Fflint yn camu'n ddidrafferth heibio i bob un gwrthwynebydd ar ei ffordd i'r brig.
Anodd mewn geiriau yw disgrifio awyrgylch y noson honno, wrth i'r ornest Taekwondo ddod i ben, wrth i'r het cael ei daflu'n orfoleddus i'r awyr, ac wrth i Jones gyfarch y dorf gan redeg o amgylch y neuadd gyda baner y ddraig yn cyhwfan.
Jade Jones - yr aelod ieuengaf o dîm Prydain i ennill medal, ac enillydd y fedal aur gyntaf erioed i Brydain ym myd Taekwondo.
Saith o fedalau oedd cyfanswm y Cymry yn Llundain, dwy yn fwy na chyfanswm Beijing, er bod y canran o gymharu â nifer yr athletwyr yn dipyn llai o gofio mai 13 o Gymry oedd yn rhan o dîm Prydain bedair blynedd yn ol, tra i 30 gystadlu yn 2012.
Siom
Ond wrth gydnabod efydd Sarah Thomas, a chlodfori campau'r rhwyfwr Chris Bartley, y bocsiwr Fred Evans, yr hwylwraig Hannah Mills a'u medalau arian, roedd 'na siom yng nghanol y sbri.
Posib fod y disgwyliadau yn ormod ar ysgwyddau Dai Greene, y gŵr oedd eisoes yn Bencampwr Byd a'r Gymanwlad.
Ac er iddo ddim ond crafu ei ffordd i'r rownd derfynol, roedd rhai o hyd yn grediniol y byddai Greene yn dychwelyd i Lanelli gyda medal.
Doedd hynny ddim i fod, gyda Greene yn croesi'r llinell yn bedwerydd. Boddi wrth ymyl y lan fu hanes Helen Jenkins hefyd, pencampwraig Triathlon y Byd, orffenodd y ras fawr yn Llundain yn y pumed safle.
Os mai'r pwysau sy'n dod yn sgil disgwyliadau uchel oedd yn gyfrifol am berfformiadau'r ddau yma, hynny sy'n sbardun mae'n ymddangos i ambell i athletwr fu'n serenu yn Llundain.
Roedd yna gwestiynnu cyn y gemau a fyddai Ussain Bolt yn llwyddo i ail-adrodd gorchest Beijing. A fyddai Michael Phelps yn ychwanegu at ei gasgliad rhyfeddol o fedalau yn y pwll? A fyddai Bradley Wiggins yn cipio medal Olympaidd yn dilyn ei lwyddiant ar strydoedd Ffrainc? Ac a fyddai Ben Ainslie yn profi mai yntau yw hwyliwr gorau'r byd?
Unigolyn dewr iawn y byddai wedi amau gallu'r athletwyr anhygoel yma.
Darllenwch am atgofion Iwan Griffiths o'r Gemau Paralympaidd yma.