Mwyafrif o blaid dirprwy arweinydd Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi goroesi cynnig diffyg hyder wrth i fwyafrif cynghorwyr y sir bleidleisio o'i blaid.
Enillodd y Cynghorydd Huw George, deilydd portffolio addysg a'r iaith Gymraeg ar gabinet y cyngor, y bleidlais o ddiffyg hyder yr oedd y Cynghorydd Mike Stoddart wedi ei gynnig.
Y cyngor llawn bleidleisiodd fore Iau, 33 phleidlais yn erbyn, 15 o blaid a naw yn ymatal.
Roedd y Cynghorydd Stoddart wedi beirniadu record y Cynghorydd George fel aelod y cabinet yn gyfrifol am addysg wedi adroddiadau Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Awst.
Mae disgwyl i Estyn gyhoeddi adroddiad cyn y Nadolig wedi iddyn nhw ailarchwilio adran addysg y cyngor sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol