Y Farwnes Thatcher wedi marw ar ôl cael strôc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Ellis Roberts

Bu farw'r Farwnes Thatcher yn 87 mlwydd oed yn dilyn strôc ddydd Llun.

Roedd iechyd y cyn-brif weinidog Ceidwadol wedi bod yn fregus ers nifer o flynyddoedd.

Cadarnhaodd ei llefarydd, yr Arglwydd Bell: "Rydym yn cyhoeddi gyda thristwch mawr fod Mark a Carol Thatcher wedi cyhoeddi marwolaeth eu mam, y Farwnes Thatcher, yn dawel yn dilyn strôc y bore 'ma."

Cyhoeddodd llefarydd ar ran Downing Street y byddai'n cael angladd seremonïol gydag anrhydeddau milwrol llawn - yr un statws ag angladdau'r Fam Frenhines a'r Dywysoges Diana - ond na fyddai'n angladd gwladol, yn unol â dymuniadau'r Farwnes ei hun.

Ychwanegon nhw y byddai ystod eang o unigolion a grwpiau oedd â chysylltiad â hi'n cael eu gwahodd.

Bydd amlosgiad preifat yn dilyn y gwasanaeth yng Nghadeirlan St Paul's.

Teyrngedau

Disgrifiad,

Adroddiad Vaughan Roderick

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod Prydain "wedi colli arweinydd gwych, prif weinidog gwych a Phrydeinwraig wych."

Bydd Mr Cameron yn dychwelyd yn fuan o daith i Ewrop ar ôl clywed y newyddion.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Roedd Margaret Thatcher yn rym mawr o fewn bywyd gwleidyddol Prydain oedd heb os wedi cael effaith sylweddol ar dirwedd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru a'r DU.

"Does dim amheuaeth am ei chyflawniad personol fel y fenyw gynta' i fod yn Brif Weinidog Prydain. Bydd ei lle yn y llyfrau hanes yn sicr."

Daeth neges o Balas Buckingham fod y Frenhines wedi'i thristáu o glywed am y farwolaeth ac y byddai'n anfon neges breifat o gydymdeimlad at y teulu.

Cyhoeddodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, ar ei gyfrif Twitter fod "un o arweinyddion mawr yr 20fed Ganrif, Margaret Thatcher, wedi rhoi'r Mawr yn ôl ym Mhrydain Fawr".

Fe'i ganwyd ar Hydref 13, 1925 a hi oedd arweinydd gwleidyddol benywaidd cyntaf y Blaid Geidwadol a Phrif Weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig.

Cyfnod hiraf

Bu'n Brif Weinidog am y cyfnod hiraf ers William Gladstone.

Disgrifiad,

Bethan Lewis fu'n sôn mwy am fywyd yr Arglwyddes Thatcher wrth David Grundy

Roedd y 11 mlynedd yr oedd wrth y llyw yn 10 Downing Street, rhwng 1979 a 1990, yn ddadleuol.

Wedi iddi ddisodli Edward Heath yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn 1975, enillodd ei hetholiad cyffredinol cyntaf yn 1979.

Bu'r Ceidwadwyr mewn grym am 18 mlynedd wedi hynny.

Cafodd ei geni ar Hydref 13 1925 yn Grantham, Sir Lincoln.

Cemeg

Roedd ei thad yn cadw siop groser ond roedd yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth leol fel cynghorydd ac fe gafodd gryn ddylanwad ar ei ferch.

Wedi iddi gael ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Kesteven ac Ysgol Grantham i Ferched enillodd ysgoloriaeth i Goleg Somerville yn Rhydychen i astudio Cemeg.

Ar ôl graddio bu'n gweithio fel ymchwilydd cemegol cyn cychwyn ar yrfa wleidyddol fyddai'n ei harwain i'r swydd bwysicaf yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Yn 1951 fe briododd â Denis Thatcher, ac fe anwyd eu plant, yr efeilliaid Carol a Mark, yn 1953.

Er iddi ymgeisio am sedd Seneddol yn 1950, yn 1959 yr enillodd hi ei hetholiad cyntaf yn etholaeth Finchley.

Bu'n Aelod Seneddol yno hyd nes iddi adael Tŷ'r Cyffredin cyn etholiad cyffredinol 1992.

Teyrnged

Yn 2009, 30 mlynedd ers iddi gael ei hethol yn Brif Weinidog, fe wnaeth David Cameron dalu teyrnged i'w ragflaenydd gan ddweud "bod y wlad i gyd mewn dyled iddi."

Yn 2001 cafodd sawl strôc ac fe gafodd gyngor i beidio ag areithio yn gyhoeddus.

Yn 2008 fe wnaeth ei merch, Carol, gadarnhau ei bod yn diodde' o ddementia.

Ym mis Rhagfyr 2012 roedd yn gwella ar ôl llawdriniaeth i dynnu tyfiant oddi ar ei phledren ac yn gynharach yn y flwyddyn roedd hi'n anhwylus a methodd fynychu cinio gyda'r Frenhines oedd yn cynnwys y Prif Weinidog a chyn-brif weinidogion i ddathlu'r Jiwbilî Diemwnt.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol