Tirlithriad: Cyngor wedi asesu'r safle sy'n dal yn beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot yn parhau i gynghori pobl i beidio dychwelyd i'w tai ar ôl tirlithriad yn Ystalyfera bron i bythefnos yn ôl.
Ar Ragfyr 22 llithrodd miloedd o dunelli o bridd yn ardal Pant-teg yn sgil y glaw diweddar.
Bu'n rhaid i drigolion 13 o gartrefi symud sydd bellach wedi gostwng i wyth.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd y cyngor bod peirianwyr arbenigol wedi bod yn asesu'r safle ac wedi bod yn gwneud gwaith diogelwch allweddol ar y safle.
O ganlyniad i'r arolwg maen nhw wedi cadarnhau asesiad cychwynnol y cyngor bod y safle yn parhau i fod "â risg o dirlithriad pellach".
O ganlyniad mae'r cyngor yn parhau i gynghori trigolion wyth o gartrefi i beidio dychwelyd i'r tai oherwydd y risg.
Diogelwch yn flaenoriaeth
"Hoffem ddiolch, nid yn unig i'r rhai sydd wedi eu heffeithio, ond i'r gymuned yn ehangach am eu dealltwriaeth a'u hamynedd," meddai John Flower, Cyfarwyddwr Amgylcheddol Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot.
"Hoffwn sicrhau pawb ein bod yn gwneud popeth posib, ond mae diogelwch yn flaenoriaeth.
"Felly mae angen i'r gwaith gael ei wneud gyda'r gofal mwya' ac mewn modd arbennig."
Mae storfa metel oedd wedi llithro i lawr gyda'r tir ac yn peri pryder wedi cael ei symud o'r ffordd gan y cyngor erbyn hyn.
Mae gwaith diogelwch arall yn cael ei wneud yn ôl y cyngor gan gynnwys clirio'r pridd, a'r coed oddi wrth y ceblau trydan.
Mae'r cyngor yn parhau i apelio ar bobl i gadw draw o'r ardal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012